British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 994 (Cy.143)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030994w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 994 (Cy.143)
TIR COMIN, CYMRU
Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
2 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mai 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 19(1)(a) a (d) o Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y Ffurflen" ( "the Form") yw Ffurflen 21 fel y cafodd ei hamnewid yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau;
ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966[3].
Amnewid ffi newydd
2.
Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau -
(a) yn y golofn gyntaf, yn lle'r geiriau "ten pounds" rhodder y geiriau "twenty pounds"; a
(b) yn yr ail golofn, yn lle'r symiau "£6.00" a "50p" rhodder y symiau "£14.00" a "£1.00" yn eu trefn.
Diwygio'r Ffurflen
3.
Yn y rhan o'r Ffurflen o dan y pennawd "FEES", yn lle'r symiau "£6.00", "50p" a "£10.00", rhodder y symiau "£14.00", "£1.00" a "£20.00" yn eu trefn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer cynyddu'r ffioedd a ragnodwyd yn Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), a gynyddwyd o'r blaen gan Reoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1195) a Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989 (O.S. 1989/2167)), am chwiliadau yng Nghofrestrau Tir Comin a Meysydd y Trefi a'r Pentrefi ac am ddarparu copïau wedi'u hardystio o gofnodion yn y Cofrestrau.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r symiau a bennir yn Nhabl y Ffioedd sydd ar ddiwedd y ffurflen yn yr Atodlen i O.S. 1989/2167 yn unol â hynny.
Notes:
[1]
1965 p.64. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 22(1).back
[2]
Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1966/1471; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1970/1996, 1980/1195 a 1989/2167.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090736 1
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
1 May 2003
|