British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003 Rhif 990 (Cy.139)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030990w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 990 (Cy.139)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
2 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
10 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 99(6)(b) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[1], sydd bellach wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Ebrill 2003.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 1993" ("the 1993 Act") yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993;
mae i "y tir a'r adeiladau penodol" ("the specified premises") yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd "the specified premises" yn adran 13(12)(a) o Ddeddf 1993.
Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd
4.
Rhaid i wrth-hysbysiad a roddir o dan adran 21 (Gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd) o Ddeddf 1993 gynnwys (yn ogystal â'r manylion sy'n ofynnol o dan yr adran honno) ddatganiad ynghylch a yw'r tir a'r adeiladau penodol o fewn ardal cynllun a gymeradwywyd fel cynllun rheoli ystâd o dan adran 70 o Ddeddf 1993.
Cymhwyso
5.
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wrth-hysbysiadau a roddir o dan adran 21 o Ddeddf 1993 ar, neu ar ôl, y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Rhaid i berson sy'n cael hysbysiad o gais am ryddfraint ar y cyd sydd wedi ei wneud o dan Ran I o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ("Deddf 1993") ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad yn derbyn neu yn gwrthod y cais. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gofyniad, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 21 o Ddeddf 1993, yngl
n â chynnwys y gwrth-hysbysiad.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys ond i wrth-hysbysiadau a roddir ar, neu ar ôl, y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Notes:
[1]
1993 p.28.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090716 7
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
10 April 2003
|