Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Nhachwedd 2002 ar 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig'.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1].
Teitl, cychwyn a chymhwyso 1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Newid Ffiniau Siroedd Wedi'u Cadw 2.
Diwygir ffiniau'r Siroredd Wedi'u Cadw rhwng Clwyd a Gwynedd, De Morgannwg a Morgannwg Ganol, a Gwent a Morgannwg Ganol fel bod ardaloedd y Siroedd Wedi'u Cadw hynny fel y disgrifir hwy yn Erthygl 3.
Ffiniau Newydd y Siroedd Wedi'u Cadw 3.
- (1) Bydd Sir Clwyd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy.
(2) Bydd Sir Gwynedd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd Ynys Môn a Gwynedd.
(3) Bydd Sir Gwent Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd a Chaerffili.
(4) Bydd Sir Morgannwg Ganol Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Tâf.
(5) Bydd Sir De Morgannwg Wedi'i Chadw yn cynnwys sir a bwrdeistrefi sirol Caerdydd a Bro Morgannwg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn cadw ardaloedd yr wyth Cyngor Sir blaenorol fel "Siroedd Wedi'u Cadw" gan addasu'r ffiniau mewn rhai achosion. Mae'r rhain yn gweithredu at ddibenion cyfyngedig mewn materion megis Arglwydd Raglawiaid a Siryfion.
Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn ei 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig' (dyddiedig Tachwedd 2002) ac argymhellodd dri newid i ffiniau presennol y Siroedd Wedi'u Cadw, un yng Ngogledd Cymru a'r gweddill yn Ne Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr argymhellion hynny'n weithredol heb addasiad.
Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw yng Ngogledd Cymru rhwng Gwynedd a Chlwyd i gynnwys y cyfan o Gonwy yn Sir Clwyd Wedi'i Chadw.
Addesir ffiniau y Siroedd Wedi'u Cadw yn Ne Cymru rhwng Morgannwg Ganol a Gwent a Morgannwg Ganol a De Morgannwg fel a ganlyn.
Addesir y ffin rhwng Morgannwg Ganol a Gwent i gynnwys y cyfan o Gaerffili yn Sir Gwent Wedi'i Chadw.
Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw rhwng Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan y Gorchymyn i'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Llanhari a Phenllyn (Gorchymyn Rhondda Cynon Tâf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002 O.S. Rhif 654 (Cy.70)) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2002.