British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 947 (Cy.128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030947w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 947 (Cy.128)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (2)(b) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2.
Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[2](ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau "1 Ebrill 2003" rhodder y geiriau "31 Hydref 2004".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [3].
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae Rheoliad 19 o'r Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a dogfennau penodol ar gael mewn perthynas â phobl sy'n gweithio mewn cartref gofal, gan gynnwys tystysgrifau cofnodion troseddol a ddyroddwyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997. O ran staff a gyflogir mewn cartref gofal yn union cyn 1 Ebrill 2002, nid yw'r gofyniad sy'n ymwneud â thystysgrifau cofnodion troseddol yn gymwys tan 1 Ebrill 2003. Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gofyniad hwn fel nad yw'n gymwys tan 31 Hydref 2004.
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler adran 121(1) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back
[2]
O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090713 2
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
10 April 2003
|