British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003 Rhif 946 (Cy.127)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030946w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 946 (Cy.127)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003
|
Wedi'i wneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Prif Orchymyn" yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2].
Diwygio erthygl 1
3.
Yn erthygl 1(2) o'r Prif Orchymyn rhoddir y geiriau "1 Awst 2003" yn lle "1 Ebrill 2003".
Diwygio erthygl 7
4.
Yn lle is-baragraff (2)(a) o erthygl 7 o'r Prif Orchymyn, rhoddir yr is-baragraff canlynol -
"
(a) a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) neu reoliad 14 o Reoliadau 2000; neu".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
E. A. Morley
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
27 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.227)) ("y Prif Orchymyn").
Mae'r Gorchymyn yn diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Prif Orchymyn yn darfod (o 1 Ebrill 2003 i 1 Awst 2003) (erthygl 3) a chywiro camgymeriad testunol a gyflwynwyd gan y Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/167 (Cy.27)) (erthygl 4).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (yn ôl y diffiniad yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau eu bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/2302 (Cy.227), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27) .back
English version
ISBN
0 11090712 4
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
10 April 2003
|