British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 943 (Cy.124)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030943w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 943 (Cy.124)
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mai 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(5) o Ddeddf Drafnidiaeth 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002[2].
Diwygio Rheoliadau 2002: dehongli
3.
- (1) Mewnosodir y canlynol yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002 (dehongli) -
(a) o flaen diffiniad "gwasanaeth lleol" -
"ystyr "pris tocyn apex" ("apex fare"), mewn perthynas â thaith, yw pris tocyn sy'n daladwy wrth brynu tocyn ar gyfer y daith honno o leiaf saith diwrnod clir cyn y dyddiad teithio, ac sy'n bris tocyn nad yw'n fwy na 90% o'r pris tocyn llawn ar gyfer oedolyn a fyddai'n daladwy wrth brynu tocyn o'r fath ar y diwrnod teithio;
"
mae i "trwydded consesiwn teithio statudol" ("statutory travel concession permit") yr un ystyr â "statutory travel concession permit" yn adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.".
Diwygio Rheoliadau 2002: rheoliad 3
4.
- (1) Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2002 (cymhwyster i gael grant) yn cael ei ddiwygio yn unol â'r ddarpariaeth ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ddiwedd paragraff (1) mewnosodir -
"
(ch) gwasanaeth coetsys domestig, i'r graddau y mae ei daith yng Nghymru ac y mae'r amodau a nodir ym mharagraff (5) yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef.".
(3) Mewnosodir ar y diwedd -
"
(5) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) yw -
(a) bod y gwasanaeth yn darparu consesiynau teithio hanner-pris (ac eithrio i bersonau sy'n teithio drwy dalu pris tocyn apex) ar nid llai na 290 diwrnod y flwyddyn ac ar nid llai nag 21 diwrnod y mis (ac eithrio mis Rhagfyr) ac ar nid llai na 12 diwrnod ym mis Rhagfyr (neu nifer pro rata y diwrnodau hynny yn ôl eu trefn os yw'r gwasanaeth yn rhedeg am ran o flwyddyn neu fis yn unig; gan dalgrynnu'r nifer gofynnol i lawr, yn ôl yr angen, i'r nifer cyfan agosaf o ddiwrnodau), i'r canlynol -
(i) personau sydd wedi cyrraedd 60 oed; a
(ii) unrhyw berson y mae trwydded consesiwn teithio statudol gyfredol wedi'i dyroddi iddo, wrth i'r person hwnnw ddangos y drwydded, neu i unrhyw berson arall sy'n gallu dangos y byddai ganddo hawl i gael trwydded consesiwn teithio statudol oni bai am gytundeb o dan adran 145(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b) bod y gwasanaeth yn rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos am gyfnod heb fod yn llai na chwe wythnos yn olynol;
(c) bod y seddau sydd ar y cerbyd, a'r seddau hynny yn gyfrwng i ddarparu'r gwasanaeth, ar gael fel rheol i aelodau'r cyhoedd a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(ch) bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol ag amserlen; a
(d) bod trefniadau yn cael eu gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau'r cyhoedd gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn cwmpas gwasanaethau bysiau cymwys at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ("Deddf 2000"), o'r un sydd wedi'i bennu gan Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2022) (Cy. 206), i gynnwys gwasanaethau coetsys penodol ar hyd lwybrau 15 milltir neu fwy a'r rheini'n wasanaethau sy'n gweithredu yn unol ag amserlen sefydlog, sydd i'w defnyddio gan y cyhoedd, ac sy'n darparu consesiynau tocynnau hanner-pris (ar delerau sydd wedi'u nodi ymhellach yn y Rheoliadau hyn) i bersonau sy'n 60 oed neu'n h
n ac i bersonau y mae trwydded consesiwn teithio statudol wedi'i dyroddi iddynt (neu y gallai fod wedi'i dyroddi, oni bai am gytundeb amgen gydag awdurdod consesiynau teithio o dan adran 145(6) o Ddeddf 2000).
Notes:
[1]
2000 p.38.back
[2]
O.S. 2002/2022 (Cy.206).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090731 0
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
28 April 2003
|