British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003 Rhif 932 (W.122)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030932w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 932 (W.122)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003
|
Wedi'i wneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym fel y darparwyd yn erthygl 1 |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 101(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002[1].
Enw a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r Erthygl hon ac Erthygl 2(1) a (2), o'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(3) Mae Erthygl 2(3) yn dod i rym ar 1 Medi 2004.
Diwygio Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002
2.
- (1) Caiff Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (b) mewnosodir -
"
(ba) provision for personal and social education for all registered pupils at the school who are of compulsory school age,".
(3) Ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir yn unol â pharagraff (2)) mewnosodir -
"
(bb) provision for work-related education for all registered pupils at the school during the fourth key stage,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol sy'n cwmpasu addysg grefyddol, y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac addysg rhyw. Mae is-adran (3) yn galluogi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Gorchymyn sy'n diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach.
Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi'i wneud o dan is-adran (3), yn ychwanegu dau ofyniad newydd at y cwricwlwm sylfaenol. Mae'r cyntaf, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol. Mae'r ail, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2004, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg gysylltiedig â gwaith i ddisgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar (disgyblion 14 - 16 oed yn fras).
Wrth addysgu plant mewn addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith mae'n rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol - gweler adran 100(8) o'r Ddeddf. Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau yng Nghylchlythyr cccc 13/2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru "Addysg Bersonal a Chymdeithasol ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith yn y Cyricwlwm Sylfaenol". Gellir cael copïau o Is-adran Safonau a Pherfformiad y Cynulliad a gellir eu gweld ar dysgu.cymru.gov.uk.
Notes:
[1]
2002 p.32.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090737 X
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
7 May 2003
|