OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 918 (Cy.119)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "deiliad cyfrif dysgu unigol" ("individual learning account holder") yw person sy'n barti i drefniant ymgymhwyso (fel y'i pennir yn rheoliad 3);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr "gweinyddydd cyfrifon dysgu" ("learning account administrator") yw corff sy'n trefnu addysg a hyfforddiant neu sy'n cynorthwyo i'w darparu ac iddo'r fantais, ar hyn o bryd, o fod wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn; ac
mae i "person cymwys" ("eligible person") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.
(3) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, at ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dirymu
2.
Dirymir Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000[2].
Trefniadau ymgymhwyso
3.
At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru -
(a) os ydynt ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu; a
(b) os nad yw'r cofrestriad wedi'i ddileu neu wedi'i dynnu'n ôl yn unol â rheoliad 5; ac
(c) os y'u hadnabyddir wrth yr enw "Cyfrif Dysgu Unigol Cymru".
Ystyr Person Cymwys
4.
- (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (5) isod ar y dyddiad cofrestru.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.
(3) Yr ail amod yw bod y person -
(a) yn ddinesydd Prydeinig;
(b) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[3];
(c) yn ffoadur, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;
(ch) yn berson sydd -
(i) wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;
(ii) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a
(iii) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,
neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(d) yn berson nad yw'n dod o fewn paragraffau (a) i (ch) ond ei fod yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.
(4) Y trydydd amod yw bod y person naill ai -
(a) yn preswylio yng Nghymru; neu
(b) yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio fel arfer yng Nghymru (oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys).
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol[4].
Cofrestru - Cyffredinol
5.
- (1) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu fynnu bod ceisydd am gofrestru yn darparu'r wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny y gallai'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu arnynt er mwyn i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu a yw'r person yn berson cymwys, a chaiff wrthod ystyried cais am gofrestru oni bai bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yn cael eu darparu.
(2) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ddileu cofrestriad ar unrhyw adeg -
(a) os yw'n ymddangos i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu fod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraff (1) yn ffug o ran manylyn perthnasol; neu
(b) os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn cyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n Lefel 3 neu'n uwch, neu'n ei chyfwerth, fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol; neu
(c) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn preswylio fel arfer yng Nghymru mwyach.
(3) Caiff deiliad cyfrif dysgu unigol dynnu ei gofrestriad gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn ôl ar unrhyw adeg.
(4) Os yw person yn barti i drefniant ymgymhwyso nid yw unrhyw gofrestriad dilynol gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu i ddwyn unrhyw effaith.
Grantiau i ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy
6.
Gall grantiau gael eu talu yn unol â rheoliadau 7 i 9 isod mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol mewn cysylltiad ag unrhyw addysg neu hyfforddiant y maent yn bwriadu ymgymryd â hwy -
(a) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn cael unrhyw ysgoloriaeth, grant neu lwfans arall sy'n cael eu talu o gronfeydd cyhoeddus mewn perthynas â chost gyfan yr addysg neu'r hyfforddiant o dan sylw; a
(b) os yw'r addysg neu'r hyfforddiant yn dod o fewn rheoliad 7; ac
(c) os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn preswylio fel arfer yng Nghymru.
Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer
7.
- (1) Yr addysg neu'r hyfforddiant y cyfeirir atynt yn rheoliad 6 yw unrhyw addysg neu hyfforddiant, heblaw addysg eithriedig, sydd -
(a) o fath a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw ffordd y gwêl yn dda; a
(b) yn cael eu darparu gan berson sydd wedi ei gymeradwyo gan weinyddydd cyfrifon dysgu ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl.
(2) Yn y rheoliad hwn, "addysg eithriedig" yw -
(a) addysg uwchradd (o fewn ystyr "secondary education" yn adran 2 o Ddeddf Addysg 1996[5]); neu
(b) unrhyw gategori arall o addysg a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Swm y grant
8.
Swm y grant y gellir ei dalu i ddeiliad cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â deiliad cyfrif dysgu unigol yw'r swm a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o bryd i'w gilydd.
Grantiau - darpariaethau atodol
9.
- (1) Mae grantiau i gael eu talu ar yr adegau ac yn y rhandaliadau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ac yn benodol caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu nad yw grant i gael ei dalu nes bod y deiliad cyfrif dysgu unigol wedi gwneud unrhyw daliad neu wedi sicrhau y telir unrhyw daliad tuag at gostau'r addysg neu'r hyfforddiant fel sy'n angenrheidiol).
(2) Mae grantiau i gael eu talu i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant.
(3) Caiff grantiau eu talu ar y telerau hynny a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chaiff y telerau hynny gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhan neu'r cyfan o'r grant yn cael ei ad-dalu -
(4) Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.
Preswylfa - darpariaethau atodol
10.
At ddibenion y rheoliadau hyn -
(1) penderfynir ar breswylfa aelod o lynges, byddin neu awyrlu y Goron ("aelod o'r lluoedd arfog") yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) -
(a) oni bai bod paragraff (b) yn gymwys, ymdrinnir ag aelod o'r lluoedd arfog fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad lle mae'n gwasanaethu am y tro,
(b) os yw'r aelod o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ymdrinnir â'r aelod hwnnw fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig lle bu'n gwasanaethu yn fwyaf diweddar, gan ddiystyru unrhyw sefydliad lle bu'n gwasanaethau am gyfnod o lai na mis;
(2) ymdrinnir â charcharor a ddelir dan ddedfryd o fewn y Deyrnas Unedig fel pe bai'n preswylio yng Nghymru os -
(a) os yw'r man neu'r sefydliad lle mae'r carcharor wedi'i ddal dan ddedfryd
(b) os yw'r man neu'r sefydliad lle mae'r carcharor yn preswylion'n barhaol yng Nghymru yn union cyn dechrau'r ddedfryd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dirymu Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000, yn diffinio'r trefniadau ymgymhwyso y cyfeirir atynt yn adran 105 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac yn darparu ar gyfer talu grantiau i bersonau sy'n ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy.
Mae rheoliadau 3 i 5 yn ymdrin â threfniadau ymgymhwyso (sydd i'w hadnabod fel "Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru"). Rhaid i'r trefniadau hyn fod ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda'r gweinyddydd cyfrifon dysgu sef corff a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y corff a gymeradwyir ar hyn o bryd yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 4 yn nodi amodau cymhwyster sy'n cynnwys preswylio yng Nghymru (neu breswylio dros dro y tu allan i Gymru adeg cofrestru ond preswylio fel arfer yng Nghymru).
Yn rheoliadau 6 i 9 darperir ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol. Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y per i dalu grantiau. Mae rheoliad 7 yn darparu y gall grantiau gael eu talu mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heblaw addysg uwchradd neu unrhyw gategori arall o addysg a eithrir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yn rheoliad 8 darperir mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu swm y grant ac mae rheoliad 9 yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer talu'r grant i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant ac ar gyfer y posibilrwydd o adennill, oddi wrth y person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant neu oddi wrth y deiliad cyfrif dysgu unigol, y grant a dalwyd o dan rai amgylchiadau.
Yn rheoliad 10 ceir darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa aelodau'r lluoedd arfog a Charcharorion a ddelir dan ddedfryd.
Notes:
[1]
2000 p.21.back
[2]
O.S. 2000/3384 (Cy.222).back
[3]
1971 p.77; diwygiwyd ei fod a mewnosodwyd is-adran (2A), gan Ddedf Cenedligrwydd 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back
[4]
Yn unol â swyddogaethau'r awdurdodau rheoleiddio mewn perthynas â chymwysterau allanol ac yn unol â pholisi cenedlaethol, cyhoeddir y fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar y cyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cyricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chyricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor Cyricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir cael y fframwaith ar www.accac.org.uk.back
[5]
1996 p.56.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090704 3
|