British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003 Rhif 894 (Cy.114)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030894w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 894 (Cy.114)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfradd y disgownt
2.
6.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 at ddibenion diffinio "r" yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol.
Mae adran 49(2) o Ddeddf 1989 yn nodi fformwla ar gyfer pennu, at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.
Un o'r elfennau y cyfeirir atynt yn y fformwla honno yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol pan ddaeth y trefniant credyd i fodolaeth.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y gyfradd ganrannol y cyfeirir ati uchod yn gyfradd ganrannol o 6.5 y cant o ddisgownt sy'n 0.2 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2002/2003.
Notes:
[1]
1989 p.42.back
[2]
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090707 8
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
9 April 2003
|