British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 Rhif 860 (Cy.107)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030860w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 860 (Cy.107)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
25 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
6 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 457(4)(b)(iii) a 569 o Ddeddf Addysg 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "Credyd Treth i Blant" a "Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio" yr ystyr a roddir i "Child Tax Credit" a "Working Tax Credit" yn Neddf Credydau Treth 2002[3].
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996; ac
ystyr "incwm blynyddol" ("annual income") yw yr incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002[4]).
Budd-dâl neu Lwfans Rhagnodedig
3.
Mae cymorth a ddarperir i riant o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999[5] yn cael ei ragnodi ar gyfer dibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996.
Credydau Treth Rhagnodedig
4.
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol:
(a) pan fydd gan riant hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a
(b) pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 yn gofyn bod gan ysgolion bolisi ar waith, ar gyfer peidio â chodi unrhyw dâl sydd fel arall yn daladwy mewn perthynas â bwyd a llety i ddsigyblion penodol ar deithiau preswyl. Mae'n rhaid bod y polisi peidio â chodi unrhyw dâl yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn derbyn budd-dâl neu lwfans penodol, neu y mae ei riant â hawl i gredydau treth penodol, sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer dibenion yr adran.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi at ddibenion adran 457 cymorth a ddarperir o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999. Maent hefyd yn rhagnodi Gredyd Treth i Blant, ar y yr amod nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a bod y dyfarniad o credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddal heb fod yn fwy n'ar swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (sef 13,320 ar hyn o bryd).
Notes:
[1]
1996 p.56. (Diwygir adran 457 (4)(b) yn rhagolygol gan adran 200 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac mae i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185) (Cy.301) (C.107)). I gael ystyr 'prescribed' a 'regulations' gweler adran 579(1) .back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back
[3]
2002 p.21.back
[4]
O.S. 2002/2006. Mae incwm blynyddol person sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â'r rheoliadau hynny yn cynnwys incwm partner y person hwnnw os oes cais ar y cyd i dderbyn Credyd Treth i Blant.back
[5]
1999 p.33.back
[6]
£13,230 yw'r swm a bennwyd mewn perthynas a Credyd Treth i Blant o 6 Ebrill 2003 ymlaen, yn sgil rheoliad 3(3) o Reoliadau Credydau Treth (Trothwyau Incwm a Phennu Cyfraddau) 2002 (O.S. 2002/2008).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090705 1
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
9 April 2003
|