British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 Rhif 818 (Cy.103)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030818w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 818 (Cy.103)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
19 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a drosglwyddwyd gan adran 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a pharagraff 22(1) o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, ac sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], ac ar ôl cynnal ymgynghoriad llawn mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion sydd i'w trosglwyddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "yr Atodlen" ("the Schedule") yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr "Awdurdod Iechyd" ("Health Authority") yw Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996[3];
ystyr "Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board") yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003[4];
ystyr "cyflogai CCE" ("EES employee") yw person y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys[5] o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
ystyr "cyflogai perthnasol" ("relevant employee") yw unrhyw berson -
(a) nad yw ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod y cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); a
(b) sydd wedi cael cynnig swydd gyflogedig gyda Bwrdd Iechyd Lleol a bennir yng Ngholofn (2) o'r Atodlen, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol â'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
ystyr "Cynllun Cyflogaeth Estynedig" ("Extended Employment Scheme") yw cynllun sy'n darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn cyflogi, am gyfnod nad yw'n hwy na 12 mis ac sy'n dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogi wedi'u trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003[6]);
ystyr "dyddiad diswyddo" ("redundancy date") yw'r dyddiad y mae person y mae erthygl 5 yn gymwys iddo yn cael hysbysiad ei fod wedi'i ddiswyddo;
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") yw 1 Ebrill 2003; ac
ystyr "Ymddiriedolaeth GIG Powys" ("the Powys NHS Trust") yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992[7].
Trosglwyddo cyflogeion Awdurdodau Iechyd i Fyrddau Iechyd Lleol
3.
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth cyflogai perthnasol gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i Fwrdd Iechyd Lleol (sef un o'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen) sydd wedi cynnig swydd gyflogedig i'r cyflogai perthnasol a bod yntau wedi'i derbyn.
Trosglwyddo cyflogeion Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys i Fwrdd Iechyd Lleol Powys
4.
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a gâi ei gyflogi, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gan Ymddiriedolaeth GIG Powys, ac nad yw ei gontract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Powys wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys.
Trosglwyddo i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig os bydd diswyddo yn digwydd
5.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i berson
(a) y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 neu 4;
(b) nad yw ei gontract cyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw wedi terfynu cyn y dyddiad diswyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); ac
(c) y datganwyd ei fod wedi'i ddiswyddo o'i swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn afreidiol ar unrhyw adeg rhwng y dyddiad trosglwyddo a 31 Mawrth 2004.
(2) Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
(3) Bydd erthygl 6 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (Trosglwyddo cyflogeion CCE o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig) yn gymwys i berson y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan baragraff (2) fel petai'r person hwnnw yn gyflogai CCE.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003
YR ATODLENErthygl 3
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Awdurdodau Iechyd
|
Byrddau Iechyd Lleol
|
Bro Tâf
Dyfed Powys
Gogledd Cymru
Gwent
Morgannwg
|
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port
Talbot
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Tâf
Sir Benfro
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir Gaerfyrddin
Sir y Fflint
Tor-faen
Wrecsam
Ynys Môn
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan baragraff 22(1) o Atodlen 5B i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ac adran 126(1) a (4) o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 6(1), (2) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y per i drosglwyddo, i Fwrdd Iechyd Lleol, a hynny drwy orchymyn, unrhyw gyflogeion unrhyw Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n ateb y disgrifiad penodedig.
Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo (erthygl 3) staff y pum Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 (OS 1996/146), ac eithrio'r staff hynny a drosglwyddir o dan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813, (Cy.98)), i'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, (Cy.18)). Mae'r Gorchymyn hefyd yn trosglwyddo (erthygl 4) staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992 (O.S. 1992/2741) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Os caiff unrhyw staff sy'n cael eu trosglwyddo i Fyrddau Iechyd Lleol o dan erthyglau 3 neu 4 eu diswyddo yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn y dyddiad trosglwyddo, byddant yn cael eu trosglwyddo (erthygl 5) i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig. Drwy'r Cynllun hwn gwneir ymdrech i gael swydd iddynt gydag un o gyflogwyr eraill y gwasanaeth iechyd neu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn unol â'r gofynion ym mharagraff 22(3) o Atodlen 5B gwneir y Gorchymyn hwn yn sgil cydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodwyd ynghylch ymgynghori mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion a drosglwyddir. Mae'r darpariaethau ym mharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 5B, i'r graddau y maent yn berthnasol, yn gymwys i'r cyflogeion a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 iddi.back
[2]
Mewn perthynas ag a.126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i darllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Mae'r pwerau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud odanynt wedi'u rhoi'n uniongyrchol i'r Cynulliad.back
[3]
O.S. 1996/146.back
[4]
(O.S. 2003/148, (Cy 18).back
[5]
Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) - gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (OS 2003/148, Cy. 18).back
[6]
O.S. 2003/813, Cy. 98).back
[7]
O.S. 1992/2741.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090701 9
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
7 April 2003
|