British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003 Rhif 817 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030817w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 817 (Cy.102)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003
|
Wedi'i wneud |
19 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn[4]), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon[5], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG
2.
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992[6], ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
19 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu ar 1 Ebrill 2003 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992.
Notes:
[1]
1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990" ) a chan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995 ") a pharagraff 57 yn Atodlen 1 iddi.back
[2]
1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan adran 65(2), adran 13(1)(a) a (10) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac Atodlen 5 iddi, ac adran 2(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 69(b) yn Atodlen 1 iddi.back
[3]
Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back
[4]
Gweler paragraff 29(2)(b) yn Atodlen 2 i Ddeddf 1990.back
[5]
1990 (p.19).back
[6]
O.S. 1992/2741.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090693 4
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
28 March 2003
|