British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 803 (Cy.97)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030803w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 803 (Cy.97)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
19 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
2 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p
er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 131(2) o Ddeddf Tai 1985[1] sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y "prif Orchymyn" yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999[3].
Diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999
3.
Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur "£24,000" rhodder y ffigur "£16,000".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [4]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gall fod gan berson sy'n arfer yr hawl i brynu t
annedd yng Nghymru yr hawl o dan Ran V o Ddeddf Tai 1985 ("y Ddeddf"), o dan adrannau 129 i 131 o Atodlen 4 i'r Ddeddf, i ddisgownt sy'n gymesur â chanran o'r pris cyn disgownt.
Mae adran 131 o'r Ddeddf yn darparu terfynau ar swm y disgownt y mae gan brynwr arfaethedig hawl iddo ac mae adran 131(2) yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn yn rhagnodi'r mwyafswm y gellir gostwng y pris sy'n daladwy am y t
annedd o dan y cynllun hawl i brynu. Breinir y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
O dan adran 131(2), gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau ar y Disgownt) (Cymru) 1999 ("y prif Orchymyn") a ragnododd, ymysg pethau eraill, mai mwyafswm y disgownt hwn oedd £24,000. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn drwy ddarparu mai mwyafswm y disgownt sydd ar gael yw £16,000.
Notes:
[1]
1985 p.68.back
[2]
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/292.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090709 4
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
10 April 2003
|