British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 706 (Cy.85)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030706w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 706 (Cy.85)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
12 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
28 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd erbyn hyn wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Rheoliadau
2.
Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny, diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000[3] -
(a) drwy hepgor paragraff (d); a
(b) drwy ychwanegu ar y diwedd -
"
(j) Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 drwy dynnu Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach oddi ar y rhestr o gyrff penodedig a thrwy ychwanegu Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol. Mae'r diwygiadau yn effeithiol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny.
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/718.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090679 9
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
20 March 2003
|