British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 673 (Cy.83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030673w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 673 (Cy.83)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
11 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y cyfnod perthnasol" ("the relevant period") o ran cwrs yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y mae person yn dechrau ar y cwrs hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod ("y diwrnod olaf") y mae'r person hwnnw yn ei gwblhau, yn rhoi'r gorau iddo, neu yn gorfod ei adael (mae'r cyfnod hwnnw yn cynnwys unrhyw gyfnod o wyliau rhwng tymhorau a chyn y diwrnod olaf);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[2];
ystyr "y Prif Orchymyn" ("the Principal Order") yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anwybyddiad Gostyngiad) 1992[3];
Hyfforddeion Hyfforddi Ieuenctid
3.
- (1) At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, ystyr "youth training trainee" yw person sydd, ar ddiwrnod penodol -
(a) yn iau na 25 oed; a
(b) ar gwrs hyfforddi a hynny'n cydymffurfio â chynllun hyfforddi personol yn unol â threfniadau -
(i) a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973[4]; a
(ii) sy'n cyfrif fel cynllun hyfforddi fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996[5].
(2) Mae person ar gwrs, at ddibenion paragraff (1) uchod, ar ddiwrnod penodol os yw'r diwrnod yn dod o fewn y cyfnod perthnasol i'r cwrs hwnnw.
Dirymu
4.
- (1) Yn Erthygl 4 o'r Prif Orchymyn dileir y geiriau
"
"youth training trainee" has the meaning given by paragraph 8 of and Schedule 1 to this Order"; a
(2) Dileir Rhan IV (Hyfforddi Ieuenctid) o Atodlen 1 i'r Prif Orchymyn yn ei gyfanrwydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 yn diffinio'r ymadrodd "youth training trainee" drwy gyfeirio at "approved training scheme" fel y'i diffinnir yn adran 28(6)(c) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
Er hynny, cafodd adran 28(6)(c) o Ddeddf 1992 ei diddymu gan adran 41(5) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 ("Deddf 1995") ac Atodlen 3 iddi fel rhan o'r newid o'r gyfundrefn "Budd-dâl Diweithdra" i'r gyfundrefn "Lwfans Ceisio Gwaith" a wnaed gan Ddeddf 1995.
Yn sgil hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn ailddiffinio'r ymadrodd "youth training scheme" yn ôl yr ymadrodd "training scheme" fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996.
Notes:
[1]
1992 p.14. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y per o dan yr adran hon mewn perthynas â Chymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[2]
O.S. 1992/548 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/543; O.S. 1995/619; O.S. 1996/636; O.S. 1996/971; O.S.1996/3143; O.S. 1997/656 ac O.S. 1998/291.back
[3]
O.S. 1992/548 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/543; O.S. 1995/619; O.S. 1996/636; O.S. 1996/971; O.S.1996/3143; O.S. 1997/656 ac O.S. 1998/291.back
[4]
1973 p.50 fel y'i diwygiwyd gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) ac adran 29(4) a Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).back
[5]
O.S. 1996/207 fel y diwygiwyd gan O.S. 1996/1516; O.S. 1996/1517; O.S. 1996/1803; O.S. 1996/2545; O.S. 1997/65; O.S. 1997/454; O.S. 1997/563; O.S. 1997/827; O.S. 1997/1909; O.S. 1997/2197; O.S. 1997/2676; O.S. 1997/2677; O.S. 1997/2863; O.S. 1998/563; O.S. 1998/766; O.S. 1998/1174; O.S. 1998/1274; O.S. 1998/1698; O.S. 1998/2117; O.S. 1998/2231; O.S. 1998/2250; O.S. 1998/2874; O.S. 1999/530; O.S. 1999/714; O.S. 1999/1509; O.S. 1999/1516; O.S. 1999/1935; O.S. 1999/2165; O.S. 1999/2226; O.S. 1999/2556; O.S. 1999/2566; O.S. 1999/2640; O.S. 1999/2860; O.S. 1999/3083; O.S. 1999/3087; O.S. 1999/3108; O.S. 1999/3156; O.S. 1999/3324; O.S. 2000/239; O.S. 2000/636; O.S. 2000/678; O.S. 2000/681; O.S. 2000/721; O.S. 2000/724; O.S. 2000/979; O.S. 2000/1370; O.S. 2000/1444; O.S. 2000/1922; O.S. 2000/1978; O.S. 2000/1981; O.S. 2000/2194; O.S. 2000/2239; O.S. 2000/2545; O.S. 2000/2629; O.S. 2000/2910; O.S. 2000/3134; O.S. 2000/3176; O.S. 2000/3336; O.S. 2001/158; O.S. 2001/488; O.S. 2001/518; O.S. 2001/652; O.S. 2001/859; O.S. 2001/1029; O.S. 2001/1434; O.S. 2001/1711; O.S. 2001/2333; O.S. 2002/2314; O.S. 2001/2319; O.S. 2001/3070; O.S. 2001/3767; O.S. 2002/398; O.S. 2002/490; O.S. 2002/668; O.S. 2002/841; O.S. 2002/1397; O.S. 2002/1589; O.S. 2002/1701; O.S. 2002/2019; O.S. 2002/2020; O.S. 2002/2207; O.S. 2002/2314; O.S. 2002/2380; O.S. 2002/2402; O.S. 2002/2442 ac O.S. 2002/2689.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090678 0
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
20 March 2003
|