British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 Rhif 542 (Cy.76)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030542w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 542 (Cy.76)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
5 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15, 15A a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diddymu
2.
Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000[3] a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001[4]).
Dehongli
3.
Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn -
mae i "asiant" yr ystyr a roddir i "agent" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw -
(a) person sydd ar hyn o bryd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
(b) person a gofrestrwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1998 ar adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu
(c) person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
mae i "cyflogwr perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant employer" yn adran 142 o Ddeddf Addysg 2002[5];
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr "gwasanaethau" ("services") yw gwasanaethau a ddarparwyd i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;
mae i "gweithiwr" yr ystyr a roddir i "worker" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "mater perthnasol" ("relevant issue") yw mater sy'n codi pan fydd amgylchiadau'r achos, gan gynnwys achlysuron o ymddygiad heblaw'r hwnnw sydd o dan sylw, o'r fath eu bod yn codi mater sy'n ymwneud â diogelwch a lles plant;
ystyr "Pwyllgor" ("Committee") yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001;
ystyr "Pwyllgor Ymchwilio" ("Investigating Committee") yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac
ystyr "trefniadau" yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yng nghyswllt y gair "arrangements" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr gyflawni gwaith yng Nghymru.
Adroddiadau gan gyflogwr
4.
Pan -
(a) fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm -
(i) nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;
(ii) sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu
(iii) sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu
(b) y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5.
- (1) Pan -
(a) fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol; neu
(b) y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.
(2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Adroddiadau gan asiant
6.
Pan -
(a) fo asiant wedi terfynu trefniadau am reswm -
(ii) nad yw'r gweithiwr yn gymwys i weithio â phlant;
(ii) sy'n ymwneud â chamymddygiad y gweithiwr; neu
(iii) sy'n ymwneud â iechyd y gweithiwr os yw mater perthnasol yn codi;
(b) y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
(c) y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7.
- (1) Pan -
(a) fo asiant wedi terfynu trefniadau i weithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig gyflawni gwaith am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol;
(b) y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
(c) y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.
(2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003
YR ATODLEN
RHAN
1
Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi gan gyflogwr perthnasol
1.
Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.
2.
Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
3.
Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
4.
Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a roddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.
5.
Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth eraill a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.
6.
Llythyr yn hysbysu bwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.
7.
Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.
RHAN
II
GWYBODAETH I'W CHYFLENWI GAN ASIANT
1.
Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.
2.
Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â therfynu'r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
3.
Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
4.
Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a roddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu'r trefniadau, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion y gweithiwr neu gynrychioliadau mewn perthynas â hynny.
5.
Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.
6.
Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu trefniadau neu yn peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.
7.
Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn yr asiant yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gellid ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â darparu addysg ac i asiantaethau cyflenwi roi adroddiadau ar achosion o gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ac achosion o anghymwysedd i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor").
Rhaid i gyflogwyr roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt yn rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person ar sail penodedig, neu os y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi peidio â darparu ei wasanaethau. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.
Rhaid i asiantau roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt wedi trefnu i weithiwr gyflawni gwaith ar ran awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu berchennog ysgol annibynnol ac y maent yn terfynu'r trefniadau hynny ar sail penodedig, neu y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi terfynu'r trefniadau neu wedi peidio â bod ar gael i weithio. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.
Mae'r Atodlen yn nodi'r wybodaeth sydd i'w darparu yn yr adroddiadau.
Notes:
[1]
1998 p.30. Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â'r Cyngor yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Amnewidir adran 15 a mewnosodir adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Adddysg 2002 (p.32). Am ystyr "prescribed" gweler adran 43(1) o Ddeddf 1998.back
[2]
Gweler adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/2906 (Cy. 186).back
[4]
O.S. 2001/1424 (Cy. 99).back
[5]
2002 p.32.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090670 5
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
17 March 2003
|