Wedi'i wneud | 3 Mawrth 2003 | ||
Yn dod i rym | 4 Mawrth 2003 |
1. | Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben |
2. | Dehongli |
3. | Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid |
4. | Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy |
5. | Grwpiau meddiannaeth unigol |
6. | Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau |
7. | Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr |
8. | Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol |
9. | Trwyddedau penodol |
10. | Trwyddedau cyffredinol |
11. | Copïau o drwyddedau |
12. | Cydymffurfio â thrwyddedau ac yn y blaen |
13. | Glanhau a diheintio |
14. | Newid meddiannaeth safleoedd |
15. | Gorfodi |
16. | Dirymu |
ATODLEN 1 | Symud o safleoedd a ganateir yn ystod y cyfnod segur |
ATODLEN 2 | Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
3.
- (1) Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle -
(2) Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur -
(3) Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.
(4) Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3] (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
(5) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud -
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy ac oddi yno
4.
Gwaherddir i unrhyw berson -
Grwpiau meddiannaeth unigol
5.
Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
6.
- (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd -
(2) Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
7.
Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol
8.
- (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd -
(2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff (1) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn -
(3) Bydd hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) yn cael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn tybio ei bod yn briodol dwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Caiff hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(b) ei gyflwyno i'r person a gaiff ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac ar feddiannydd unrhyw safle a enwir wrth ei enw yn yr hysbysiad.
(5) Bydd hysbysiad yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau penodol
9.
- (1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol -
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded arbennig, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol hynny -
(3) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny drwy gydol y symud.
(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Trwyddedau cyffredinol
10.
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Copïau o drwyddedau
11.
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
Cydymffurfio â thrwyddedau, ac yn y blaen.
12.
Os bydd unrhyw berson yn methu cydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn caiff un o swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu cydymffurfio.
Glanhau a diheintio
13.
- (1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2), neu awdurdodiad o dan erthygl 5, bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003[6].
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud anifeiliaid sicrhau, ac eithrio pan fo'r drwydded, yr awdurdodaeth neu'r caniatâd yn darparu fel arall, y cydymffurfir â'r gofynion sy'n berthnasol i'r gwaith o lanhau a diheintio a hynny cyn gynted â phosibl ar ôl dadlwytho'r anifeiliaid a, beth bynnag, cyn symud y cyfrwng cludo o'r safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo.
(3) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
Newid meddiannaeth safleoedd
14.
- (1) Os, pan fydd ei hawl meddiannaeth dros unrhyw safle yn dod i ben, bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, mae'n rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw -
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o 7 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail o'r safle yn peidio â bod yn gymwys, ac mae perchennog yr anifail yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, y symiau hynny, yn dâl ac yn ad-daliad o dreuliau, ag a allai fod yn gyfiawn ac yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau.
Gorfodi
15.
Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Dirymu
16.
Dirymir y canlynol -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mawrth 2003
Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
3 Mawrth 2003
Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial
5.
Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6.
Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod cyn ymadael.
Anifeiliaid i'w hallforio
7.
Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynnyrch Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 cyn ei allforio.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
8.
Symud anifail rhwng safleoedd mewn grp meddiannaeth unigol.
Tir comin
9.
- (1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac -
(2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol honno mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[10].
Symud moch ar gyfer magu, ac yn y blaen
10.
- (1) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.
(2) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.
Symud moch i sioeau neu arddangosfeydd
11.
Symud mochyn i sioe neu arddangosfa os yw wedi'i ynysu am 20 niwrnod cyn iddo gael ei symud a hynny ar y safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
Cyfryngau cludo sy'n dadlwytho anifeiliaid eraill
12.
Symud anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.
Ceirw
13.
Symud ceirw oddi ar unrhyw safle.
(2) Symud mochyn (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer magu, ar yr amod -
Mochyn sy'n dychwelyd i sioe neu arddangosfa
4.
Mochyn sy'n dychwelyd o sioe neu addangosfa i'r safle y cludwyd ef ohono i'r sioe neu'r arddangosfa honno ar yr amod y caiff ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd i'r safle a gymeradwywyd i'r pwrpas hwn gan arolygydd milfeddygol.
Canolfannau ffrwythloni artiffisial
5.
Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6.
Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
7.
Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod -
Anifeiliaid a fewnforir
8.
- (1) Anifail a fewnforir yn cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.
(2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
9.
Symud anifail rhwng safleoedd mewn grp meddiannaeth unigol.
Cyfryngau cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill
10.
Symud anifail y deuir ag ef i'r safle mewn cyfrwng cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod na ddadlwythir yr anifail yn y safle hwnnw.
Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol
11.
Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
[2] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/129 (Cy.17).back
[3] O.S. 2002/2303 (Cy.228) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back
[4] O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2001/4029.back
[6] O.S. 2003/482 (Cy.68).back
[7] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back
[8] O.S. 2002/2480 (Cy.243).back
[9] O. S. 2003/168 (Cy.28).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 24 March 2003 |