British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 411 (Cy.58)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030411w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 411 (Cy.58)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Chwefror 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1], a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001[2].
Diwygio'r Prif Reoliadau
2.
- (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch).
(3) Yn rheoliad 8(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod".
(4) Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch).
(5) Yn rheoliad 8(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod".
(6) Yn rheoliad 11(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod".
(7) Yn rheoliad 11(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Chwefror 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Fe sefydlwyd cyfundrefn apelau amaethyddol ar gyfer Cymru gan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001.
Mae'r Rheoliadau presennol yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy ddileu'r gofyniad i geiswyr roi rhesymau am eu cais am adolygiad yng nghamau 1 a 2 o'r broses apelau.
Maent hefyd yn estyn y cyfnod i wneud cais yng nghamau 2 a 3 o'r broses o 30 diwrnod i 60 diwrnod ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd i'r cyfeiriad ar gyfer anfon cais.
Notes:
[1]
1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back
[2]
O.S. 2001/2537 (Cy.212).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090657 8
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
6 March 2003
|