British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, L<sup>o</sup>ô n-Las) 2003 Rhif 406 (Cy.57)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030406w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 406 (Cy.57)
PRIFFYRDD, CYMRU
Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Loô n-Las) 2003
|
Wedi'u wneud |
26 Chwefror 2003 | |
|
Yn dod i rym |
28 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16, 17 a 326 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob per galluogi arall[2] yn gwneud y Cynllun hwn: -
1.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi i ddarparu ar hyd y llwybr a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ffordd arbennig ar gyfer defnydd traffig Dosbarth 1 ac 11 a nodir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980.
2.
Mae llinell ganol y ffordd arbennig hon wedi ei dynodi â llinell drwchus ddu dangosir fel "A" ar y plan a adneuwyd.
3.
Bydd y darn o'r ffordd arbennig a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras dangosir fel "B" ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd Ddi-ddosbarth o'r dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysybysu Dinas a Sir Abertawe fod y ffordd arbennig newydd ar agor i draffig trwodd.
4.
Yn y Cynllun hwn: -
(1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(i) ystyr "y draffordd" ("motorway") yw traffordd Llundain-De Cymru (M4);
(ii) ystyr "y ffordd arbennig" ("the special road") yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
(iii) ystyr "y plan a adneuwyd" ("the deposited plan") yw'r plan a rifwyd HA16/1 NAFW 1 a elwir Cynllun Ffordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Lôn-Las) 2003, ac sydd wedi ei lofnodi ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd ac wedi'i adneuo drwy awdurdod Storfa ac Adferiad Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, (RSRU) Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
5.
Daw'r Cynllun hwn i rym ar 28 Mawrth 2003 a'i enw yw Cynllun Ffordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Lôn-Las) 2003.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd
R. K. Cone
Pennaeth yr Is-adran Rheoli'r Rhwydwaith ffyrdd y Gyfarwddiaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru
26 Chwefror 2003
ATODLEN 1
Llwybr y Ffordd Arbennig
Llwybr o'i chyffordd â chylchfan y gylchfan newydd yng nghyffordd 44 i gyfeiriad y gogledd am bellter o tua 36 metr.
ATODLEN 2
Y darn o'r Ffordd Arbennig sydd yn peidio â bod yn Gefnffordd
Y darn o Ffordd Arbennig sydd yn peidio â bod yn Gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin yng nghyffordd 44 o'i chyffordd â'r gylchfan bresennol sydd yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am bellter o tua 162 metr.
Notes:
[1]
1980 p.66back
[2]
Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymruback
English version
ISBN
0 11090660 8
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
6 March 2003
|