British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003 Rhif 170 (Cy.30)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030170w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 170 (Cy.30)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
|
Wedi'i wneud |
30 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Ionawr 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2.
- (1) Diwygir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2] yn unol a'r erthygl hon.
(2) Yn erthygl 1(2) rhoddir "1 Tachwedd 2003" yn lle "1 Chwefror 2003".
(3) Yn erthygl 3(1), yn y testun Cymraeg yn unig, rhoddir "Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'n" yn lle "Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2003
Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2303 (Cy.228)), ("y prif Orchymyn").
Yr unig newid o sylwedd a wneir i'r prif Orchymyn gan y Gorchymyn hwn yw diwygio'r dyddiad y mae'r prif Orchymyn yn peidio â chael effaith (o 1 Chwefror 2003 i 1 Tachwedd 2003) (erthygl 2). Mewnosodir term a ddiffiniwyd (ceidwad) yn y testun Cymraeg o erthygl 3(1) yn lle cymal cyfatebol.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach wedyn bob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/2303 (Cy.228).back
English version
ISBN
0 11090648 9
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
18 February 2003
|