OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 167 (Cy.27)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
|
Wedi'i wneud |
30 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Ionawr 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y prif Orchymyn" yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2].
Diwygio erthygl 1
3.
Yn erthygl 1(2) o'r prif Orchymyn rhoddir y geiriau "1 Ebrill 2003" yn lle "1 Chwefror 2003".
Diwygio erthygl 2
4.
Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mewnosodir y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn y wyddor -
"
ystyr "Marc" ("Mark") yw un o'r canlynol: Marc F, Marc R, Marc S, Marc Tarddiad, neu Farc X;
ystyr "Marc F" ("F Mark") yw Marc F yn unol ag erthygl 6(1) a (4);
ystyr "Marc R" ("R Mark") yw Marc R yn unol ag erthygl 6(1) a (6);
ystyr "Marc S" ("S Mark") yw Marc S yn unol ag erthygl 6(1) a (7);
ystyr "Marc Tarddiad" ("Origin Mark") yw Marc Tarddiad yn unol ag erthygl 6(1) a (5);
mae i "Rhif adnabod unigol" ("individual identification number") yr ystyr a roddir yn erthygl 6(9) a (10);".
Mewnosod erthygl 2A
5.
Ar ôl erthygl 2, mewnosodir yr erthygl canlynol -
"
Dodi neu gofnodi Rhif au adnabod unigol
2A.
Yn y Gorchymyn hwn nid yw cyfeiriad at ofyniad i ddodi neu gofnodi Rhif adnabod unigol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rhif adnabod unigol gael ei ddodi na'i gofnodi os yw'r Rhif hwnnw wedi ei ddodi neu ei gofnodi eisoes fel rhan o Farc.".
Diwygio erthygl 4
6.
- (1) Caiff erthygl 4 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol -
"
(iv) os bydd dafad yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;".
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol -
"
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol y ddafad a symudwyd.".
Diwygio erthygl 5
7.
- (1) Caiff erthygl 5 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol -
"
(iv) os bydd gafr yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;".
(3) Ym mharagraff (2), is-baragraff (f) o'r testun Saesneg yn unig, rhoddir y geiriau "to or from a show" yn lle "to a show".
(4) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol -
"
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr afr a symudwyd.".
Diwygio erthygl 6
8.
- (1) Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (4) rhoddir y canlynol -
(3) Yn lle paragraff (5) rhoddir y canlynol -
(4) Yn lle paragraff (6) rhoddir y canlynol -
Diwygio erthygl 7
9.
Yn lle paragraff (2) o erthygl 7 o'r prif Orchymyn, rhoddir y canlynol -
"
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail -
(a) a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol ag erthygl 8(4) neu (5) neu erthgyl 15 o Orchymyn Defaid a Geifr 2000; neu
(b) a oedd wedi ei farcio â Marc Tarddiad ar 31 Ionawr 2003 neu cyn hynny.".
Diwygio erthygl 9
10.
Yn erthygl 9(2)(dd) o'r prif Orchymyn, dilëir y geiriau "ac wedi'i farcio â Rhif adnabod unigol".
Diwygio erthygl 12
11.
- (1) Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(ii), yn lle "Reoliadau 2000; neu" rhoddir "Reoliadau 2000;".
(3) Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(iii), mewnosodir "neu" ar ôl "Marc R".
(4) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (a)(iv) rhoddir y canlynol -
"
(iv) os yw anifail yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;".
(5) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y paragraff canlynol -
"
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan baragraffau (2)(a)(ii) neu (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail a symudwyd.".
Diwygio erthygl 13
12.
- (1) Diwygir erthygl 13 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraffau (b) ac (c) rhoddir y canlynol -
"
(b) os Marc Tarddiad oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai -
(i) tag â'r llythrennau "UK" wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu
(ii) tat
â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;
(c) os Marc F oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai -
(i) tag â'r llythrennau "UK" wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F; neu
(ii) tat
â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F;
(ch) os Marc R oedd y Marc gwreiddiol, dodi Marc R newydd; neu
(d) os na ellir gwneud y gweithredoedd yn is-baragraffau (a), (b), (c), dodi Marc R.".
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol -
"
(2A) Rhaid i Farc a ddodwyd o dan is-baragraffau (2)(b), (c) neu (ch) gael ei groesgyfeirio â'r Marc gwreiddiol yn y cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan erthygl 4 neu 5.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2003
Whitty
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
30 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.27)).
Dyma'r prif newidiadau a wneir i'r Gorchymyn -
(a) diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Chwefror 2003 i 1 Ebrill 2003) (erthygl 3);
(b) diwygio diffiniadau o Farciau F, R a Marciau Tarddiad i gynnwys Rhif adnabod unigol ar gyfer y ddafad neu'r afr, ond dim ond ar gyfer defaid neu eifr na ddodwyd un o'r marciau hynny arnynt eisoes cyn i'r Gorchymyn hwn ddod yn effeithiol ar 31 Ionawr 2003.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi i'r Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (yn ôl y diffiniad yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau eu bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/2302 (Cy.227).back
English version
ISBN
0 11090645 4
|