OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 154 (Cy.24)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
29 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24(4), (5), (6) a (9), adran 38(1), (5) a (7) ac adran 39(1) a (3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol -
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol -
(a) mae i "awdurdod lleol" yr ystyr a roddir i "local authority" yn adran 24 (9)(a) o Ddeddf 2002;
(b) ystyr "corff GIG" ("NHS body") yw Awdurdod Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Ymddiriedolaeth Gofal[2];
(c) ystyr "cyfnod gweithredol" ("operative period") yw'r cyfnod y caiff strategaeth ei llunio mewn perthynas ag ef;
(ch) ystyr "Cynulliad" ("Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(d) mae i "cyrff cyfrifol" yr ystyr a roddir i "responsible bodies" yn a.24(2) o Ddeddf 2002;
(dd) ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;
(e) ystyr "grp trefniant comisiynu" ("commissioning arrangement group") yw'r grp sy'n cynnwys y cyrff cyfrifol ac Ymddiriedolaeth neu Ymddiriedolaethau GIG ac sydd wedi'i ddynodi mewn canllawiau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad at ddibenion ymgymryd â threfniant comisiynu;
(f) mae "gwasanaethau" ("services") yn cynnwys unrhyw swyddogaeth neu weithgaredd a fwriedir i hwyluso darparu unrhyw wasanaeth y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn, neu i fod yn ffafriol neu'n ategol iddi;
(ff) ystyr "gwasanaethau gofal eilaidd" ("secondary care services") yw gwasanaethau ar gyfer neu mewn cysylltiad ag atal, gwneud diagnosis neu drin salwch sy'n cael eu darparu yn bennaf mewn ysbyty neu o ysbyty (ac mae i'r geiriau "illness" a "hospital" yr ystyron a roddir iddynt gan adran 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[3]);
(g) ystyr "gwasanaethau iechyd a llesiant" ("health and well-being services") yw unrhyw wasanaethau sy'n cael eu darparu gan gorff GIG; unrhyw wasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol) sy'n cael eu darparu o dan neu mewn cysylltiad â swyddogaethau awdurdod lleol o dan Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970[4], adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999[5] neu reoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000[6]; ac unrhyw wasanaeth tebyg sy'n cael eu darparu gan gorff gwirfoddol neu gorff arall;
(ng) ystyr "poblogaeth leol" ("local population") yw aelodau o'r cyhoedd sydd fel arfer yn preswylio neu sydd yn bresennol yn ardal neu ardaloedd y cyrff cyfrifol;
(h) ystyr "strategaeth" ("strategy") yw strategaeth iechyd a llesiant o dan a. 24 (1) o Ddeddf 2002 (a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn fel strategaeth "iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant") ac mae'n cynnwys strategaeth ddrafft;
(i) ystyr "swyddogaethau comisiynu" ("commissioning functions") yw unrhyw un o swyddogaethau'r cyrff cyfrifol neu unrhyw un ohonynt sy'n ymwneud â chynllunio, prynu neu fonitro cyflwyniad o unrhyw wasanaeth iechyd a llesiant;
(j) ystyr "trefniant comisiynu" ("commissioning arrangement") yw trefniant rhwng y cyrff cyfrifol mewn gr p trefniant comisiynu i arfer eu swyddogaethau comisiynu mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal eilaidd ar y cyd ac i gydweithredu ac ymgynghori â'i gilydd mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau hynny.
Dyletswydd i gydweithredu gyda chyrff rhagnodedig
3.
- (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r canlynol wrth lunio ac addasu eu strategaeth -
(a) yr Ymddiredolaeth neu Ymddiriedolaethau GIG sy'n darparu gwasanaethau i'r boblogaeth leol;
(b) y Cyngor neu Gynghorau Iechyd Cymuned sy'n cynrychioli'r boblogaeth leol;
(c) y Cyngor neu Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy'n cefnogi cyrff gwirfoddol yn ardal neu ardaloedd y cyrff cyfrifol neu mewn unrhyw ran ohonynt, neu pan nad oes Cyngor o'r fath, unrhyw gorff arall o'r fath a allai fod yn cyflawni swyddogaethau tebyg i'r rhai sy'n cael eu cyflawni gan Gyngor o'r fath;
(ch) y Cynulliad; a
(d) unrhyw gorff preifat, busnes neu wirfoddol neu gorff arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol neu y mae ganddo fuddiant mewn darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol.
(2) Cyn llunio strategaeth neu wneud unrhyw weithred o dan Reoliad 4, rhaid i'r cyrff cyfrifol mewn ymgynghoriad â'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (1) baratoi gweithdrefn ar gyfer cydweithredu â phersonau a chyrff o'r fath.
Camau y mae'n rhaid i gyrff cyfrifol eu cymryd cyn llunio strategaeth
4.
- (1) Cyn llunio strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol gynnal asesiad o anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol.
(2) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1) gynnwys asesiad o'r materion a nodir yn rheoliad 5(2)(a) i (e) isod.
(3) Wrth gynnal asesiad o dan baragraff (1), rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1) ac ymgynghori â'r canlynol -
(a) y boblogaeth leol; a
(b) unrhyw bersonau neu sefydliadau eraill y mae'n ymddangos i'r cyrff cyfrifol eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol y bydd y strategaeth yn effeithio arnynt yn sylweddol;
a rhaid iddynt ystyried canlyniadau ymgynghori o'r fath wrth lunio asesiad anghenion o dan baragraff (1).
(4) Wrth gyflawni asesiad o dan baragraff (1), rhaid i'r cyrff cyfrifol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ac ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad yn unol ag adran 24(7)(a) neu (b) o Ddeddf 2002.
Materion y mae'n rhaid i'r strategaeth fynd i'r afael â hwy
5.
- (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried yr asesiad anghenion a gyflawnwyd o dan reoliad 4(1) uchod.
(2) Rhaid i'r strategaeth fynd i'r afael â'r canlynol -
(a) cyflwr iechyd a llesiant y boblogaeth leol;
(b) anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol;
(c) y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol;
(ch) bylchau neu ddiffygion yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol;
(d) risgiau i iechyd a llesiant y boblogaeth leol;
(dd) ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant y boblogaeth leol, gan gynnwys -
(i) ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol,
(ii) hybu iechyd ac addysg, diogelu iechyd a maeth,
(iii) diogelwch bwyd (ac ystyr "bwyd" at ddibenion y rheoliad hwn yw'r ystyr a roddir i "food" yn adran 1 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990)[7],
(iv) datblygu ac adfywio cymunedol a datblygu cynaliadwy,
(v) anghydraddoldebau mewn iechyd a llesiant,
(vi) y cyfle sydd gan y boblogaeth leol i ddefnyddio gwasanaethau iechyd a llesiant ac anghydraddoldebau o ran defnyddio gwasanaethau o'r fath;
(vii) argaeledd cludiant cyhoeddus a chymunedol a'r cyfle sydd gan y boblogaeth leol i'w defnyddio;
(viii) argaeledd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a'r cyfle sydd gan y boblogaeth leol i'w defnyddio;
(ix) safon a chyflwr tai y boblogaeth leol;
(e) yr anghenion iechyd a llesiant y rhagwelir y bydd ar y boblogaeth leol gydol y cyfnod gweithredol;
(f) gwella iechyd a llesiant y boblogaeth leol;
(ff) y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a llesiant y bydd eu hangen drwy gydol y cyfnod gweithredol i ddiwallu anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol, ac effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau o'r fath;
(g) y dulliau o gomisiynu a chyflwyno gwasanaethau iechyd a llesiant;
(ng) yr adnoddau ariannol neu adnoddau eraill y bydd eu hangen i weithredu'r strategaeth; ac
(h) unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 24(7)(a) neu (b) o Ddeddf 2002.
Trefniadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau gofal eilaidd
6.
- (1) Wrth lunio'u strategaeth rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried, -
(a) a fyddai buddiannau'r boblogaeth leol yn cael eu diwallu orau; a
(b) a fyddai modd sicrhau -
(i) gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau gofal eilaidd y maent yn eu darparu;
(ii) gwerth am arian ac effeithlonrwydd gwell wrth arfer eu swyddogaethau comisiynu mewn perthynas â gwasanaethau gofal eilaidd,
drwy ymgymryd â threfniant comisiynu gyda'r cyrff cyfrifol eraill a'r Ymddiriedolaeth neu Ymddiriedolaethau GIG yn eu grp trefniant comisiynu.
(2) Os bwriada'r cyrff cyfrifol beidio ag ymgymryd â threfniant comisiynu, rhaid iddynt -
(a) darparu rhesymau llawn a manwl i'r Cynulliad dros fwriad o'r fath, ynghyd â manylion o'r trefniadau amgen y mae'r cyrff cyfrifol yn eu cynnig ar gyfer y gwasanaethau comisiynu neu ofal eilaidd;
(b) ymgynghori â'r Cynulliad cyn penderfynu peidio ag ymgymryd â threfniant comisiynu, ac
(c) rhoi sylw i ymateb y Cynulliad i'r cyfryw ymgynghoriad wrth benderfynu a ddylid ymgymryd â threfniant comisiynu.
(3) Os bydd y cyrff cyfrifol yn penderfynu peidio ag ymgymryd â threfniant comisiynu, rhaid iddynt gyhoeddi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff 2(a) uchod yn eu strategaeth.
Integreiddio strategaethau neu gynlluniau rhagnodedig eraill â strategaethau iechyd gofal cymdeithasol a llesiant ac ystyried strategaethau neu gynlluniau rhagnodedig eraill
7.
- (1) Dyma'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn -
(a) cynllun gwasanaethau plant o dan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989[8];
(b) cynllun ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[9]; ac
(c) cynllun ar gyfer gwella iechyd o dan adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999[10].
(2) Wrth lunio a gweithredu eu strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried a chydlynu ac integreiddio'r cynlluniau a restrir ym mharagraff (1) uchod yn eu strategaeth a'u cyhoeddi fel rhan o'u strategaeth.
(3) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gydlynu ac integreiddio perfformiad eu rhwymedigaethau o dan y darpariaethau a restrir ym mharagraff (1) uchod gyda pherfformiad eu rhwymedigaethau mewn perthynas â'r strategaeth.
(4) Rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1(a) a (b) fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth a rhaid iddynt yn arbennig gyflawni eu dyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynllun o dan y darpariaethau hynny drwy ei baratoi a'i gyhoeddi fel rhan o strategaeth.
(5) Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol gyflawni eu rhwymedigaethau o dan a.28 o Ddeddf Iechyd 1999[11]) fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth a rhaid iddynt yn arbennig gyflawni eu dyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynllun o dan yr adran honno trwy ei baratoi a'i gyhoeddi fel rhan o strategaeth.
(6) Mae'r diwygiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i gael effaith.
8.
Wrth lunio a gweithredu eu strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol hefyd ystyried y strategaeth gyfredol ar gyfer hybu llesiant (neu'r strategaeth gymunedol) o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[12].
Ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft
9.
- (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi'r strategaeth ddrafft ac ymgynghori â'r canlynol ar y strategaeth ddrafft cyn ei mabwysiadu -
(a) y boblogaeth leol;
(b) y personau neu gyrff a restrwyd yn rheoliad 3(1);
(c) awdurdodau lleol eraill a Byrddau Iechyd Lleol y mae'r cyrff cyfrifol yn rhannu un neu fwy o ffiniau cyffredin â hwy; ac
(ch) unrhyw bersonau neu sefydliadau eraill y mae'n ymddangos i'r cyrff cyfrifol eu bod yn cynrychioli buddiannau y bydd y strategaeth yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;
a rhaid iddynt ystyried canlyniadau ymgynghori o'r fath wrth gwblhau'r strategaeth sydd i'w mabwysiadu.
(2) Mae lleiafswm o 12 wythnos i'w ganiatáu ar gyfer y cyfnod ymgynghori o dan baragraff (1).
Dyddiad mabwysiadu'r strategaeth, cyfnod gweithredol ac adolygu
10.
- (1) Rhaid i'r strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi ar ffurf drafft ar 31 Mawrth 2004 neu cyn hynny.
(2) Rhaid i'r strategaeth gyntaf gael ei llunio a'i mabwysiadu gan y cyrff cyfrifol ar 31 Rhagfyr 2004 neu cyn hynny.
(3) Cyfnod gweithredol y strategaeth gyntaf fydd tair blynedd o 1 Ebrill 2005.
(4) Cyfnod gweithredol y strategaethau canlynol fydd pum mlynedd o'r dyddiad y daeth cyfnod gweithredol y strategaeth flaenorol i ben.
(5) Caiff y strategaeth ei hadolygu yn flynyddol gan y cyrff cyfrifol a rhaid i'r cyrff cyfrifol adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad ar y cyfryw adolygiadau.
(6) Erbyn diwedd cyfnod gweithredol strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol fod wedi llunio strategaeth newydd, a rhaid iddynt ei mabwysiadu erbyn diwedd cyfnod gweithredol y strategaeth flaenorol.
Cyhoeddi'r strategaeth ar ôl ei mabwysiadu
11.
Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi'r strategaeth cyn pen 4 wythnos ar ôl ei mabwysiadu o dan reoliad 10 uchod a rhoi copi ohoni i'r Cynulliad.
Y cyfle i weld strategaethau drafft a strategaethau mabwysiedig
12.
- (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi fel rhan o'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig grynodeb gweithredol o gynnwys y strategaeth ddrafft neu'r strategaeth fabwysiedig.
(2) Pan gyhoeddir y strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig rhaid eu cyhoeddi ar ffurf electronig hygyrch hefyd.
(3) Rhaid i'r cyrff cyfrifol sicrhau bod copïau o'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd -
(a) yn eu swyddfeydd;
(b) mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu hardal neu eu hardaloedd; ac
(c) ar y rhyngrwyd.
(4) Rhaid cyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig yn Gymraeg a Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.
(5) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ymgynghori â'r Cyngor neu Gynghorau Cydraddoldeb Hil ar gyfer eu hardal neu eu hardaloedd mewn perthynas â chyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg, a rhaid iddynt fabwysiadu eu hargymhellion oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.
(6) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ymgynghori â'r Comisiwn Hawliau Anabledd mewn perthynas â chyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig ar ffurf ac mewn cyfrwng a allai eu gwneud yn rhesymol hygyrch i bersonau ag anabledd, a rhaid iddynt fabwysiadu eu hargymhellion oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
29 Ionawr 2003
YR ATODLENRheoliad 7
Diwygio Deddf Plant 1989
1.
Diwygir paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (Cynlluniau gwasanaethau plant) fel a ganlyn.
2.
Yn is-baragraff (3)(a) o baragraff 1A, mewnosodir y geiriau "Local Health Board," o flaen y geiriau "Health Authority".
Diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990
3.
Diwygir adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (Cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol) fel a ganlyn.
4.
Yn is-adran (2), paragraff (a), mewnosodir y geiriau "and any Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
Diwygio Deddf Iechyd 1999
5.
Diwygir adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999 (Cynlluniau ar gyfer gwella iechyd, a.y.y.b) fel a ganlyn.
6.
Yn is-adran (1), mewnosodir y geiriau ", each Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
7.
Yn is-adran (2), mewnosodir y geiriau ", each Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
8.
Yn is-adran (3), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
9.
Yn is-adran (4), paragraff (a), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
10.
Yn is-adran (4), paragraff (b), mewnosodir y geiriau "or a Local Health Board's" ar ôl y geiriau "Health Authority's", a'r geiriau "or Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
11.
Yn is-adran (5), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".
12.
Yn is-baragraff (6), paragraff (b), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts,".
13.
Yn is-adran (6), paragraff (g), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts".
14.
Yn is-adran (6), paragraff (h), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "and Primary Care Trusts".
15.
Yn is-adran (7), paragraff (a), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards" ar ôl y geiriau "Health Authorities".
16.
Yn is-adran (8), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" eu ar ôl y geiriau "Health Authority".
17.
Yn is-adran (8), paragraff (a), mewnosodir y gair "Board" ar ôl y gair "Authority".
18.
Yn is-adran (8), paragraff (b), mewnosodir y gair ", Board" ar ôl y gair "Authority".
19.
Yn is-adran (9), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts".
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, Cynllun i'r GIG ynghyd â'i Bartneriaid, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i hybu gweithio effeithiol ar ffurf partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol.
Mae Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) yn darparu, yn adran 24 o'r Ddeddf honno, ar gyfer gosod dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant y boblogaeth yn yr ardal, ac i ystyried y strategaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at strategaethau o'r fath fel "strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant".
Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148) a nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003 /150).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer -
(a) dylestswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i gydweithredu gydag Ymddiriedolaethau GIG, Cynghorau Iechyd Cymuned, a sefydliadau yn y sector gwrifoddol a phreifat wrth baratoi strategaethau (rheoliad 3);
(b) y camau rhagbaratoi y mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau iechyd eu cymryd mewn perthynas â strategaethau, gan gynnwys asesu anghenion ac ymgynghori (rheoliad 4);
(c) y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy mewn strategaethau (rheoliad 5);
(ch) trefniadau comisiynu mewn perthynas â gwasanaethau gofal eilaidd, y mae Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i fod i ymgymryd â hwy ar y cyd ag Ymddiredolaethau GIG (rheoliad 6);
(d) osgoi dyblygu cynlluniau a strategaethau statudol eraill sydd eisoes yn bodoli a rhoi sylw iddynt (rheoliadau 7 ac 8);
(dd) ymgynghori ar strategaethau drafft (rheoliad 9);
(e) yr amseroedd ar gyfer mabwysiadu, adolygu a hyd strategaethau (rheoliad 10);
(f) cyhoeddi'r strategaethau ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu (rheoliad 11); a
(ff) galluogi'r cyhoedd i archwilio a chael gweld y strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig (rheoliad 12).
Cynhaliwyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a gosodwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2002 p.17.back
[2]
Mae'r cyrff GIG y cyfeirir atynt yn deillio o'r ddeddfwrieth ganlynol. Crewyd Awdurdodau Iechyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49). Yng Nghymru, caiff yr Awdurdodau Iechyd eu diddymu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003 yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) - gweler Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003. Mae Byrddau Iechyd Lleol i gael eu sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan a.16BA o Ddeddf 1977 a byddant yn dechrau gweithredu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003 - gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18). Yn Lloegr, mae Awdurdodau Iechyd yn cael eu hailenwi yn Awdurdodau Iechyd Strategol (adran 1 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Mae Byrddau Iechyd Lleol i gael eu sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16BA o Ddeddf 1977 a byddant yn dechrau gweithredu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003. Crewyd Ymddiriedolaethau GIG yn unol ag adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (1990 p.19). Gellir creu Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol yn Lloegr yn unol ag adran 16A o Ddeddf 1977. Gellir dynodi Ymddiredolaethau GIG ac Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol fel Ymddiriedolaethau Gofal yn unol ag adran 45 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (2001 p.15).back
[3]
1977 p.49.back
[4]
1970 p.42.back
[5]
1999 p.8.back
[6]
O.S. 2000/2993 (Cy. 193).back
[7]
1990 p.16.back
[8]
1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).back
[9]
1990 p.19. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S .1999 Rhif 672).back
[10]
1999 p.8. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf Iechyd 1999.back
[11]
Mae swyddogaethau Awdurdod Iechyd o dan a.28 o Ddeddf 1999 yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol yn rhinwedd Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003, sy'n diddymu Awdurdodau Iechyd ac yn trosglwyddo'u swyddogaethau i'r Cynulliad a Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (OS 2003/[ ](Cy. ), sy'n trosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdodau Iechyd gynt oddi wrth y Cynulliad i'r Byrddau Iechyd Lleol.back
[12]
2000 p.22. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 4(5).back
[13]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090665 9
|