British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 147 (Cy.17)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030147w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 147 (Cy.17)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
29 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym yn unol â darpariaethau Rheoliad 1(1) |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) a (2), 19(1), (2), (4), (5) a (6), 20(1) a (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Rheoliadau hyn eu llofnodi.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dirymu
2.
Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002[3].
Diwygio'r prif Reoliadau
3.
Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (Aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch -
"
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, gellir penodi aelod neu swyddog awdurdod lleol i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth, ac, yn achos aelod, ni waeth a yw'r person hwnnw yn aelod o'r weithrediaeth honno ai peidio, ac ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Galluogodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, awdurdod lleol yng Nghymru a weithredai drefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau fel y cyflawnir ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol drwy gyfrwng cyd-bwyllgor.
Darparodd Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") mai aelodau o weithrediaethau yn unig y gellir eu penodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a ddiwygiodd Reoliadau 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu per penodi positif fel y gallai aelodau nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth a swyddogion wasanaethu ar gyd-bwyllgorau.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
O.S. 2002/802 (Cy.87).back
[3]
O.S. 2002/2941 (Cy.282).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090632 2
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
7 February 2003
|