British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 140 (Cy.12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030140w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 140 (Cy.12)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
28 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2003 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1], ac adran 10(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2] sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999
2.
Mae Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[4]) yn cael eu diwygio fel a ganlyn: -
(a) Yn rheoliad 3(2) ar ôl y diffiniad o "cwmni" mewnosodwch -
"
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;".
(b) Yn Rhan I o Atodlen 3 -
(i) mewnosodwch ar ôl paragraff 1 (1)(b) -
"
(ba) os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor ei fod yn athro neu athrawes gymwysedig, gan fod y Cyngor wedi'i fodloni ar 1 Medi 2003 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 8 fod y datganiad a gyflwynwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey yn gywir; neu";
(ii) ym mharagraff 1(1) ar ôl y geiriau "o dan baragraff (b)" mewnosodwch y geiriau "neu (ba)", ac ar ôl y geiriau "o'r dyddiad y bydd y Cynulliad" mewnosodwch y geiriau "neu'r Cyngor";
(iii) mewnosodwch ar ôl paragraff 1(2) -
"
(2A) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), gall y Cyngor ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 fod yn athro neu athrawes gymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos."; a
(iv) ym mharagraff 1(4) yn lle'r geiriau "ni fydd y Cynulliad yn darparu" rhowch y geiriau "ni fydd naill ai'r Cynulliad na'r Cyngor yn darparu".
Diwygio Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000
3.
Mae Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000[5] yn cael eu diwygio trwy roi yn lle'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" yn rheoliad 2 y diffiniad canlynol -
mae i "athro neu athrawes gymwysedig" yr un ystyr ag sydd i "qualified teacher" yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 er mwyn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i benderfynu a yw categorïau penodol o bersonau yn athrawon cymwysedig. Mae'r rhain yn cynnwys person sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon; person sydd yn cael ei adnabod fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon; person sydd wedi ei gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban; athro neu athrawes ysgol o Ardal Economaidd Ewrop; a pherson sydd wedi ei argymell ar gyfer statws athro neu athrawes gymwysedig gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" yn Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000.
Notes:
[1]
1988 p.40. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).back
[2]
1998 p.30.back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
O.S 1999/2817 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2938(Cy.279).back
[5]
O.S. 2000/ 2560 (Cy. 169).back
[6]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11090631 4
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
7 February 2003
|