British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003 Rhif 62
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030062w.html
[
New search]
[
Help]
O F F E R Y N N A U S T A T U D O L
2003 Rhif 62
CWMNÏAU
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003
|
Gwnaed |
9th Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
27th Ionawr 2003 | |
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o arfer y pwerau a roddwyd iddi gan adrannau 10(2), 10(2A), 288(2), 363(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y cawsant eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], a phob p
er arall sy'n ei galluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.
- (1) Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003 a byddant yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adran rifog yn ymwneud ag adran o Ddeddf Cwmnïau 1985.
2.
- (1) Mae Ffurflenni 10 cym, 288a cym a 288c cym, a 363 cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflenni ychwanegol a bennwyd at ddibenion adrannau 10(2), 288(2) a 363(2) i'w defnyddio gan gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
(2) Mae Ffurflen 363s cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen ychwanegol a bennwyd at ddibenion adran 363(2) lle mae'r Cofrestrydd, er mwyn casglu manylion blynyddol cwmni y dywed ei femorandwm y lleolir ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru, wedi anfon y ffurflen at y cwmni hwnnw.
(3) Mae Ffurflen 723SR cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adrannau 10(2A) a 288(2) i'w defnyddio gan gyfarwyddwr i gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
(4) Mae Ffurflen 723(change) cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adran 288(2) i'w defnyddio gan gyfarwyddwr i gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
3.
Er gwaethaf Rheoliad 2, bydd y ffurflenni canlynol yn parhau i gael eu defnyddio fel dewisiadau posibl eraill yn lle'r ffurflenni a welir yn Atodlen y Rheoliadau hyn ar gyfer cwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru, ac eithrio mai'r ffurflenni a enwir yn Rheoliad 2 (neu'r fersiwn Saesneg cyfatebol) y bydd yn rhaid eu harfer lle mae'r cyfarwyddwr cwmni dan sylw yn fuddiolydd o dan Orchymyn Cyfrinachedd wedi ei wneud yn unol ag adran 723B -
(a) ffurflenni 10 cym, 288a cym a 288c cym yn yr atodlen i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni a Dogfennau Cymraeg) Cwmnïau 1995[3];
(b) ffurflen 363 cym yn yr atodlen i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 1999[4];
(c) ffurflen 363s cym yn yr atodlen i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000[5].
C Clancy,
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol
Adran Masnach a Diwydiant
9th Ionawr 2003
Click here to view Form 1 of 29
Click here to view Form 2 of 29
Click here to view Form 3 of 29
Click here to view Form 4 of 29
Click here to view Form 5 of 29
Click here to view Form 6 of 29
Click here to view Form 7 of 29
Click here to view Form 8 of 29
Click here to view Form 9 of 29
Click here to view Form 10 of 29
Click here to view Form 11 of 29
Click here to view Form 12 of 29
Click here to view Form 13 of 29
Click here to view Form 14 of 29
Click here to view Form 15 of 29
Click here to view Form 16 of 29
Click here to view Form 17 of 29
Click here to view Form 18 of 29
Click here to view Form 19 of 29
Click here to view Form 20 of 29
Click here to view Form 21 of 29
Click here to view Form 22 of 29
Click here to view Form 23 of 29
Click here to view Form 24 of 29
Click here to view Form 25 of 29
Click here to view Form 26 of 29
Click here to view Form 27 of 29
Click here to view Form 28 of 29
Click here to view Form 29 of 29
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gan ddod i rym ar 2 Ebrill 2002, bu i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 2002 (y "Rheoliadau Ffurflenni") -
(i) greu ffurflen 723SR newydd at ddibenion adran 10(2A) ac adran 288(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985 a ffurflen 723 (change) newydd at ddibenion adran 288(2), a hefyd;
(ii) pennu ffurflenni diwygiedig yn cynnwys ffurflenni 10, 288a a 288c, a 363 a 363s at ddibenion adrannau 10(2), 288(2) a 363(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn eu trefin briodol, a darparu bod amrywiol ffurflenni a bennwyd mewn offerynnau statudol blaenorol i barhau i gael eu defnyddio fel dewisiadau posibl yn lle'r ffurflenni newydd hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflenni 10 cym, 288a cym, 288c cym, 363 cym, 363s cym, 723SR cym a 723 (change) cym, sydd yn ddewisiadau Cymraeg yn lle'r ffurflenni a bennwyd gan y Rheoliadau Ffurflenni. Bydd defnydd ffurflenni Cymraeg cyfatebol o'r fath yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003. Bydd y Cofrestrydd Cwmnïau'n darparu unrhyw rai o'r ffurflenni ar gyfer unrhyw gwmni y mae ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru ac sy'n rhoi gwybod i'r Cofrestrydd ei fod am dderbyn ffurflen yn Gymraeg yn lle ffurflenni 10, 288a, 288c, 363, 363s, 723SR a 723 (change).
Notes:
[1]
1985 c. 6.back
[2]
1993 c. 38.back
[3]
O.S. 1995/734.back
[4]
O.S. 1999/2357.back
[5]
0.S. 2000/2413.back
English version
ISBN
0 11 515501 5
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
27 January 2003
|