Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o arfer y pwerau a roddwyd iddi gan adrannau 288A a 363(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y cawsant eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], a phob per arall sy'n ei galluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.
- (1) Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2003 a byddant yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adran neu adran rifog yn ymwneud ag adran o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y caiff honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001[3] a Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Rhif 2) 2002[4].
2.
- (1) Mae Ffurflen LLP 363 cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen ychwanegol a bennwyd at ddibenion adran 363(2) i'w defnyddio gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y mae ei dogfen gorffori yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
(2) Mae Ffurflen LLP 723SR cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adran 288A i'w defnyddio gan aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y mae ei dogfen gorffori yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
(3) Mae Ffurflen LLP 723 (newid) cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adran 288A i'w defnyddio gan aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y mae ei dogfen gorffori yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.
3.
Er gwaethaf Rheoliad 2, bydd y ffurflen LLP 363 cym a gynhwysir yn yr Atodlen i Reoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001[5] yn parhau i gael ei defnyddio fel dewis posibl arall yn lle'r ffurflen a welir yn Atodlen y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â phartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y mae ei dogfen gorffori yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru, ac eithrio mai'r ffurflen LLP 363 cym a gynhwysir yn Atodlen y Rheoliadau hyn (neu'r fersiwn Saesneg cyfatebol) y bydd yn rhaid ei harfer lle mae aelod o'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dan sylw yn fuddiolydd o dan Orchymyn Cyfrinachedd wedi ei wneud yn unol ag adran 723B.
C Clancy,
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant
Gan ddod i rym ar 2nd Ebrill 2002, pennodd Rheoliadau (Ffurflenni) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2002 (y "Rheoliadau Ffurflenni") ffurflenni newydd 723SR a 723 (change) at ddibenion adran 288A o Ddeddf Cwmnïau 1985 i'w defnyddio ar gyfer aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd yn fuddiolydd o dan Orchymyn Cyfrinachedd wedi ei wneud yn unol ag 723B o Ddeddf Cwmnïau 1985. Bu i'r Rheoliadau Ffurflenni bennu hefyd ffurflen LLP 363 ychwanegol, sef y ffurflen flynyddol ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ynghyd â dalennau parhad.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflenni LLP 363 cym, 723SR cym a 723 (newid) cym, sydd yn ddewisiadau Cymraeg yn lle'r ffurflenni a bennwyd gan y Rheoliadau Ffurflenni. Bydd defnydd ffurflenni Cymraeg cyfatebol o'r fath yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003. Bydd y Cofrestrydd Cwmnïau'n darparu unrhyw rai o'r ffurflenni ar gyfer unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y mae ei dogfen gorffori yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru ac sy'n rhoi gwybod i'r Cofrestrydd Cwmnïau ei bod am dderbyn ffurflen yn Gymraeg yn lle ffurflenni LLP363, 723SR a 723(change).