Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022303w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 2303 (Cy.228)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
|
Wedi'i wneud |
am 11:30 a.m ar 5 Medi 2002 | |
|
Yn dod i rym |
6 Medi 2002 | |
TREFN YR ERTHYGLAU
RHAN I
Rhagarweiniol
RHAN II
Cofnodion ac adnabod moch
Cofnodion moch
Adnabod moch
RHAN III
Symud moch
RHAN IV
Amrywiol
YR ATODLENNI
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
RHAN I
RHAGARWEINIOL
Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "anifail" ("animal") yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid ac anifeiliaid o deulu'r mochyn;
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch hyd yn oed dros dro, ond nid yw'n cynnwys unrhyw berson sy'n geidwad ond am ei fod yn cludo'r anifeiliaid;
ystyr "canolfan gasglu" ("collecting centre") yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;
ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae anifeiliaid yn cael eu dal, eu cadw neu eu trin;
ystyr "fferm" ("farm") yw unrhyw ddaliad y mae moch yn cael eu cadw arno er mwyn eu bridio neu eu pesgi;
bydd i "gr p meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a roddir iddo yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2];
mae i "lladd-dy" yr ystyr a roddir i "slaughterhouse" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995[3];
ystyr "marc adnabod" ("identification mark") yw marc sy'n cydymffurfio ag erthygl 5;
ystyr "marchnad" ("market") yw marchnadle neu iard gwerthu neu unrhyw safle neu le arall y deuir ag anifeiliaid iddo o leoedd eraill a'u cynnig i'w gwerthu; ac mae'n cynnwys unrhyw le sy'n cyffinio â'r safle hwnnw ac sy'n cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr â'r farchnad ar gyfer parcio cerbydau ac unrhyw loc sy'n cyffinio â marchnad ac sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â hi;
ystyr "rhif adnabod y daliad" ("identification number of the holding") yw'r cod rhifiadol a neilltuir i'r daliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "rhif daliad" ("CPH number") yw'r rhif daliad a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Bydd yn ffordd ddigonol o gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud cais, dyroddi trwydded, hysbysiad, awdurdod neu awdurdodiad, adneuo dogfen neu anfon neu roi dogfen, neu sy'n caniatáu gwneud hynny, os cyflawnir hyn drwy gyfrwng gwasanaeth trosglwyddo ffacsimili.
RHAN II
COFNODION AC ADNABOD MOCH
COFNODION MOCH
Cofnodion a hysbysiadau daliadau
3.
- (1) Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n ysgrifenedig y Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad o'r canlynol -
(a) cyfeiriad y daliad;
(b) enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad;
(c) rhif adnabod y daliad (os yw'n hysbys i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad); ac
(ch) rhywogaeth unrhyw anifail sy'n cael ei gadw ar y daliad.
(2) Yn achos daliad a sefydlwyd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un mis o sefydlu'r daliad.
(3) O fewn un mis o wneud unrhyw newid i'r manylion a hysbyswyd neu unrhyw ychwanegiad at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'r Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol yn ysgrifenedig o'r newid neu'r ychwanegiad.
(4) Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad roi'r manylion a hysbyswyd i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny.
(5) Yn yr erthygl hon ystyr "Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol" yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r swydd honno ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.
Cofnodion moch
4.
- (1) Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad wneud cofnod a'i gadw -
(a) ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 mewn perthynas â phob symudiad moch i'r daliad neu ohono; a
(b) o uchafswm y moch sy'n bresennol fel arfer ar y daliad (a hynny'n cael ei ddiwygio o leiaf bob blwyddyn).
(2) Yn achos unrhyw berson sy'n gwerthu unrhyw fochyn (p'un ai drwy arwerthiant neu drwy gytundeb preifat) ar safle sy'n cael ei ddefnyddio fel marchnad ar gyfer moch drwy arwerthiant, rhaid iddo wneud cofnod ysgrifenedig (yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) uchod) o enw a chyfeiriad gwerthwr a phrynwr pob lot foch, a rhif y gorlan neu'r corlannau lle'r oedd pob lot yn cael ei chadw, a chadw'r cofnod hwnnw yn ei feddiant.
(3) Rhaid i bob cofnod o dan yr erthygl hon -
(a) cael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl i'r symudiad neu'r gwerthiant gael ei gofnodi; a
(b) cael ei gadw yn ei feddiant gan berchennog neu geidwad y mochyn neu berchennog y daliad neu'r person sydd â'r gofal drosto am gyfnod o dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi.
(4) Os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol, rhaid i unrhyw berson sydd â gofal am y tro dros unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ddangos y cofnod hwnnw a chaniatáu i gopi gael ei wneud ohoNo.
(5) Os yw cofnod y mae'n ofynnol ei gwneud o dan yr erthygl hon yn cael ei gwneud ar ffurf electronig neu fagnetig, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) -
(a) at ddangos y cofnod yn gyfeiriadau at ei ddangos ar ffurf ysgrifenedig, os dyna beth y mae ar yr arolygydd yn ei fynnu; a
(b) at gymryd darnau neu gopïau o'r cofnod yn gyfeiriadau at eu cymryd ar ffurf ysgrifenedig.
ADNABOD MOCH
Marciau adnabod
5.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau, â marc adnabod (y mae'n rhaid iddo fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn y mae'n cael ei ddodi arno) ar ffurf tag clust neu dat
.
(2) Rhaid i'r marc adnabod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) -
(a) gynnwys y cod gwlad 'UK' a marc cenfaint y daliad lle mae'r marc yn cael ei ddodi; a
(b) rhaid iddo gynnwys rhif gwahaniaethol a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad, ac yn achos tag clust, rhaid dodi'r llythyren "P" o flaen y rhif hwnnw.
(3) Ni fydd yn gyfreithlon symud mochyn o ddaliad (ac eithrio gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr) oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau -
(a) yn achos mochyn sy'n cael ei symud i arddangosfa neu sioe neu at ddibenion bridio ac y bwriedir ei ddychwelyd i'r safle y mae'n cael ei symud ohono, â marc adnabod sy'n cynnwys marc cenfaint y daliad lle dodir y marc a rhif adnabod unigol unigryw a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad; neu
(b) ym mhob achos arall -
(i) â marc adnabod sy'n cydymffurfio â pharagraff (2) neu (3)(a); neu
(ii) â marc adnabod a fydd yn para o leiaf tan yr amser y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan ac sy'n caniatáu, naill ar ei ben ei hun neu drwy gyfeiriad at ddogfen sy'n cyd-fynd â'r mochyn yn ystod y symudiad, i'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf gael ei adnabod.
(4) Ac eithrio yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, ni fydd yn gyfreithlon i unrhyw berson -
(a) tynnu oddi ar fochyn farc adnabod sydd wedi'i ddodi arno neu wedi'i roi ynghlwm wrtho yn unol â darpariaethau blaenorol yr erthygl hon; na
(b) amnewid marc adnabod a ddodwyd ar fochyn neu a roddwyd ynghlwm wrtho yn unol â'r darpariaethau hynny ac eithrio er mwyn amnewid un sydd wedi mynd yn anarllenadwy neu sydd wedi mynd ar goll.
Tagiau clust
6.
- (1) Ni chaiff neb roi marc adnabod ar ffurf tag clust ynghlwm wrth fochyn oni bai bod y tag clust yn bodloni darpariaethau paragraff (2); ac yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at dag clust yn gyfeiriadau at dag clust sy'n bodloni'r darpariaethau hynny.
(2) Rhaid i dag clust fod wedi'i lunio yn y fath fodd -
(a) ag i beidio ag effeithio'n andwyol ar lesiant y mochyn y mae ynghlwm wrtho;
(b) ag i fod yn amhosibl ei newid mewn ffordd nad yw'n caniatáu sylwi'n rhwydd fod newid wedi digwydd; a
(c) ag i fod yn amhosibl ei ailddefnyddio.
RHAN III
SYMUD MOCH
Gwahardd rhai symudiadau moch
7.
- (1) Ni chaiff neb -
(a) symud mochyn neu beri iddo gael ei symud o farchnad neu ganolfan gasglu i farchnad neu ganolfan gasglu arall (ac eithrio i ganolfan gasglu ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith);
(b) symud mochyn i ladd-dy ac eithrio er mwyn ei gigydda o fewn 48 awr ar ôl iddo gyrraedd yno;
(c) mynd â mochyn o ladd-dy ac eithrio ar ôl iddo gael ei gigydda; neu
(ch) dychwelyd mochyn i fferm o farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith.
Cyfyngiad ar symud moch o fewn 20 diwrnod o symudiad blaenorol
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, pryd bynnag y mae unrhyw anifail wedi'i symud i unrhyw safle, ni chaiff neb symud unrhyw fochyn o'r safle hwnnw (nac o unrhyw safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol) cyn y daw i ben gyfnod o 20 diwrnod o'r diwrnod y danfonwyd yr anifail y cyfeiriwyd ato gyntaf i'r safle hwnnw.
(2) Ni fydd y cyfyngiad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff (1) yn gymwys yn unrhyw un o'r achosion a nodir yn erthygl 3(2) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[4].
(3) Er gwaethaf y gwaharddiad ym mharagraff (1), rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i'r symudiadau canlynol -
(a) unrhyw symudiad y cyfeirir ato yn erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; na
(b) symudiad mochyn y bwriedir ei fridio neu beri iddo dyfu o ffynhonnell a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i unrhyw safle, pan fydd y symudiad hwnnw wedi'i awdurdodi yn unol ag amodau a nodwyd yn ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.
Rheoleiddio symud moch (heblaw moch anwes)
9.
- (1) Heb ragfarnu erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb symud mochyn (ac eithrio mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig) na pheri iddo gael ei symud o unrhyw safle, oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog y mochyn neu ei asiant yn cyd-fynd â'r mochyn a bod y ddogfen honno'n nodi -
(a) cyfeiriad gan gynnwys cod post a rhif daliad y safle y mae'r mochyn yn cael ei symud ohono, a'r safle y mae'n cael ei symud iddo;
(b) y dyddiad y mae'r symudiad yn digwydd;
(c) nifer y moch y mae'r ddogfen symud yn ymdrin ag ef;
(ch) marc adnabod pob un o'r moch sy'n cael eu symud;
(d) yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Pan fydd y moch yn cyrraedd eu cyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud y moch roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan a rhaid iddo yntau ei gadw yn ei feddiant am gyfnod o 6 mis.
(3) Rhaid i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae safle'r gyrchfan wedi'i leoli.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud i safle y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r moch yn cael eu symud ohono wedi'i leoli.
Rheoleiddio symudiadau moch anwes
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig, na pheri iddo gael ei symud, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd o dan yr erthygl hon sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys pan fydd y mochyn yn cael ei symud dros dro o'r safle er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.
(3) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon gael ei dyroddi gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r symudiad yn dechrau neu gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol.
Rheoleiddio gwerthiannau moch
11.
- (1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant moch ar fferm ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r fferm wedi'i lleoli.
(2) Rhaid peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (1) uchod, a rhaid peidio â chynnal gwerthiant, ac eithrio -
(a) os bydd y gwerthiant yn cynnwys dim ond moch sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o genfaint sefydlog y fferm honno, a
(b) os nad oes unrhyw anifeiliaid (heblaw anifeiliaid sydd wedi'u symud i'r fferm yn unol â darpariaethau erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) wedi'u symud i'r fferm honno ar ddiwrnod y gwerthiant neu o fewn cyfnod o 20 diwrnod cyn diwrnod y gwerthiant.
Darpariaethau ynghylch trwyddedau, a.y.y.b
12.
- (1) Bydd unrhyw drwydded a ddyroddir at ddibenion y Rhan hon yn ddilys am y cyfnod sydd wedi'i ddatgan ynddi yn unig.
(2) Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, awdurdod, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig ac -
(a) bod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt; a
(b) caniateir i'r dogfennau hyn gael eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu gan yr awdurdod dyrannu drwy hysbysiad a roddir i'r person y mae'n cael ei ddyroddi iddo ond heb ragfarnu unrhyw beth a wneir neu yr hepgorir ei wneud cyn i unrhyw amrywiad, ataliad neu ddirymiad o'r fath ddod yn effeithiol.
(3) Pan fydd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio at ffurflen sy'n ymddangos mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwn, rhaid cymryd bod y cyfeiriad hwnnw yn cynnwys ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurflen yn yr Atodlen honNo.
RHAN IV
AMRYWIOL
Gorfodi
13.
Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir fel arall, gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.
Dirymu a.y.y.b.
14.
- (1) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[
5].
(2) Bydd effaith Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) 1995[
6] yn darfod tra bydd y Gorchymyn hwn mewn grym.
Ffurflenni
15.
Er gwaethaf erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927[
7], caiff yr awdurdod lleol ddarparu a chyflenwi copïau printiedig o unrhyw ddogfen neu ffurflen sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
am 2:31 p.m. ar 4 Medi 2002
Llofnodwyd
Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:30 a.m. ar 5 Medi 2002
ATODLEN 1Erthygl 4
COFNOD DALIAD O SYMUDIADAU
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod
Dyddiad y symudiad
|
Y Marc Adnabod
|
Nifer y Moch
|
Y safle y symudwyd hwy ohono
|
Y safle y symudwyd hwy iddo
|
|
|
|
|
|
ATODLEN 2Erthygl 10
SYMUD MOCH ANWES
TRWYDDED AR GYFER SYMUD MOCH ANWES
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
Trwyddedir drwy hyn
(Enw a chyfeiriad y person a fydd yn symud y moch) a ddisgrifir yn y tabl isod.
Disgrifiad o'r moch sy'n cael ei symud
|
Marciau adnabod
|
Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post) a rhif daliad y safle y mae'r moch i'w symud ohono ac i'w dychwelyd iddo
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhaid peidio â symud y moch y mae'r drwydded hon yn ymwneud â hwy ond yn unol â'r llwybrau y mae'r manylion amdanynt i'w cael yn atodlenni
[mewnosodwch rifau'r atodlenni ] i'r drwydded hon.
Mae'r drwydded hon yn cael ei dyroddi yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir drosodd.
Mae'r drwydded hon yn ddilys tan
(mewnosodwch y dyddiad - hyd at flwyddyn o ddyddiad ei dyroddi).
Rhaid ei dychwelyd i'r awdurdod dyroddi os nad yw wedi'i defnyddio.
Dyddiad dyroddi
Llofnod
Enw (
Mewn priflythrennau)
Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
PWYSIG: GWELER YR AMODAU AR Y TU CEFN
Yr Amodau
1.
Dim ond am y cyfnod datganedig y bydd y drwydded hon yn ddilys, ac fe gaiff yr awdurdod dyroddi ei dirymu ar unrhyw adeg.
2.
Rhaid i'r person sy'n symud moch o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symudiad ac, os gofynnir iddo wneud hynny, ei dangos i gwnstabl neu arolygydd ac, os oes ar y person hwnnw eu hangen, roi ei enw a'i gyfeiriad iddo.
Nodyn i'r awdurdod dyroddi: rhaid i'r awdurdod dyroddi anfon copi o'r drwydded hon i awdurdod lleol y gyrchfan o fewn tri diwrnod o'i dyroddi.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru ac y mae ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003, yn datgymhwyso a disodli dros dro Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd) ("Gorchymyn 1995"). Mae'n cydgrynhoi (gyda diwygiadau) y newidiadau dros dro i Orchymyn 1995, a wnaed gan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/281 (Cy.33)) ("Gorchymyn 2002").
Yn ychwanegol at y newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002, mae'r Gorchymyn hwn -
(a) yn estyn y cyfnod y mae'r mesurau yn parhau mewn grym i 1 Chwefror 2003;
(b) yn dileu'r ffurfiau amrywiol ar ddatganiad a nodwyd yn yr Atodlenni i Orchymyn 1995 ac yn eu lle yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfen symud sy'n cynnwys gwybodaeth benodol gyd-fynd â phob symudiad moch (heblaw moch anwes) (erthygl 9); a
(c) yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded symud ar gyfer symud moch anwes, ac yn nodi ffurf y drwydded honno (erthygl 10).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).back
[2]
O.S. 2002/2304 (Cy.229).back
[3]
O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddynt, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
[4]
O.S. 2002/2304 (Cy.229).back
[5]
O.S.2002/281 (Cy.33).back
[6]
O.S. 1995/11.back
[7]
O.S. 1927/290.back
[8]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090571 7
|
Prepared
20 September 2002