British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022171w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 2171 (Cy.218)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud am 11:45 a.m. ar |
22 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym am 12.00 canol dydd ar |
22 Gorffennaf 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y p
er a roddwyd iddo gan adrannau 79C, 79E a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygiadau
2.
- (1) At ddibenion y Rheoliad hwn ystyr "cynllun chwarae haf" yw darpariaeth gofal dydd sy'n cynnwys plant o dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd, a honno'n ddarpariaeth sy'n gweithredu'n unig am y cyfan neu ran o'r cyfnod rhwng dyddiad dod i rym Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a 13 Medi 2002.
(2) Diwygir rheoliad 4 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[
2] fel a ganlyn
"
(4A) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes cais wedi'i wneud am y dystysgrif neu am wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw ar gael eto i unigolyn sy'n dymuno darparu cynllun chwarae haf."
(3) Diwygir rheoliad 16 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn -
"(7) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b) -
(a) bod y person yn dymuno gweithio mewn cynllun chwarae haf;
(b) bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw;
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch y materion a bennir ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(ch) o leiaf un geirda ysgrifenedig neu eirda dros y ffôn;
(d) bod y person wedi darparu
(i) datganiad ysgrifenedig nad yw'r person wedi'i gollfarnu na'i rybuddio am unrhyw dramgwydd troseddol, neu
(ii) manylion ysgrifenedig unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr "spent" yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974[6] ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan swyddog heddlu ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd; a
(dd) bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(4) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[7] fel a ganlyn -
(a) Yn Atodlen 8, yn dilyn paragraff 9 mewnosodir -
"
9A Notwithstanding paragraph 4 where the applicant intends to provide a summer playscheme, -
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the National Assembly on receipt that the documents so applied for are available for inspection; and
(b) a criminal record certificate previously issued under section 113 of the Police Act 1997; and
(c) a written result of a check carried out of the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999[8] and Regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988."
(b) Yn Atodlen 8, mewnosodir ar ôl paragraff 10(2) -
"
(3) Notwithstanding sub-paragraph (1), where the person works or intends to work in a summer playscheme, a statement confirming that the documents specified in sub-paragraph (2) have been applied for and the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual will advise the National Assembly on receipt that the documents so applied for are available for inspection."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
Jane.E.Hutt
Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
11:45 a.m. ar 22 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989 ac maent yn gymwys i bersonau sy'n dymuno darparu cynlluniau chwarae haf a fyddai'n gweithredu yng Nghymru yn y cyfnod rhwng dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn a 13 Medi 2002 neu i bersonau sy'n dymuno gweithio yn y cynlluniau hynny.
Mae'r rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, fel bod modd i bersonau sy'n dymuno darparu cynllun chwarae haf gael eu cofrestru er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt dystsygrif cofnod troseddol fanwl, cyhyd â bod amodau penodol eraill yn cael eu bodloni. Ar yr amod eu bod yn cael eu goruchwylio, caiff personau sy'n dymuno gweithio mewn cynlluniau chwarae haf ddechrau gweithio tra'n aros am gael y tystsygrifau cofnod troseddol manwl cyhyd â bod pob gwybodaeth benodedig arall ar gael.
Notes:
[1]
1989 p.41; mewnosodwyd adrannau 79C a 79E gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn Adran 121(1) o'r Ddeddf Safonau Gofal, mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol. Gweler adran 121(1) am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back
[2]
O.S. 2002/812.back
[3]
1997 p.50.back
[4]
1999 p.14.back
[5]
1988 p.40.back
[6]
1974 p.53.back
[7]
O.S. 2002/919.back
[8]
1999 c.14.back
[9]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090561 X
|
Prepared
29 August 2002