British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021898w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1898 (Cy.199)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
6 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
1], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1968 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
- (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Awst 2002.
(3) Daw rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2003.
Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001[
2] yn unol â darpariaethau'r rheoliadau hyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) -
(a) yn lle'r diffiniad o "iâr ddodwy" rhoddir y diffiniad canlynol -
"
ystyr "iâr ddodwy" ("laying hen") yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac sy'n cael ei chadw i gynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;".
(b) ar ôl y diffiniad o ystyr "iâr ddodwy" ("laying hen") rhoddir y diffiniad canlynol -
"
ystyr "llaesodr" ("litter") yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu i'w hanghenion etholegol;"
ac ar ôl y diffiniad o ystyr "mochyn" ("pig") rhoddir y diffiniad canlynol -
ystyr "nyth" ("nest") yw lle ar wahân i iâr unigol neu grp o ieir ddodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r aderyn neu'r adar;"; ac
(c) ar ôl mewnosod y diffiniad uchod o ystyr "llaesodr" ("litter"), mewnosoder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "lle y gellir ei ddefnyddio" ("usable area") yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, heb gynnwys man nythu, sy'n 30cm o led o leiaf, a gogwyddiad y llawr heb fod yn fwy na 14%, ac yn 45 cm o uchder o leiaf;".
(3) Diddymir rheoliad 4 ac Atodlen 2.
(4) Yn lle Rheoliad 5 rhoddir y rheoliad canlynol:
"
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C)
5.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.".
(5) Ar ôl rheoliad 5 ychwanegir y rheoliad canlynol:
"
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid ieir dodwy
5A.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid sefydliadau a chanddynt fwy na 350 o ieir dodwy sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3CH.".
(6) Yn Atodlen 1 -
(7) Yn lle Atodlen 3 rhoddir y darpariaethau canlynol:
"
ATODLEN 3rheoliad 5
AMODAU YCHWANEGOL Y MAE'N RHAID CADW DOFEDNOD (HEBLAW'R RHAI SY'N CAEL EU CADW YN Y SYSTEMAU Y CYFEIRIR ATYNT YN ATODLENNI 3A, 3B A 3C) ODANYNT
Pan gedwir unrhyw ddofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar laesodr, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd at laesodr, sydd wedi'i gynnal yn dda, neu at fan wedi'i draenio'n dda ar gyfer gorffwys."
(8) Ar ôl Atodiad 3 mewnosodir Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(9) Yn lle paragraff (a) o reoliad 12 rhoddir y paragraff canlynol -
"
(a) Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC[3] sy'n gosod safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
ATODLENRheoliad 2(8)
"
ATODLEN 3Arheoliad 5A
SYSTEMAU DI-GAWELL
1.
Rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu ar gyfer cadw ieir dodwy a phob system gynhyrchu o'r fath y dechreuir ei defnyddio am y tro cyntaf gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2.
O 1 Ionawr 2007 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
3.
Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy:
(a) naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10 cm i bob iâr neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4 cm i bob iâr;
(b) naill ai cafn yfed parhaol sy'n rhoi 2.5 cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi 1 cm i bob iâr, a hefyd, os defnyddir pigynnau d r o fewn cyrraedd i bob iâr;
(c) o leiaf un nyth i bob saith iâr. Os defnyddir nythod grp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;
(ch) clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n rhoi o leiaf 15 cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30 cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20 cm o leiaf; a
(d) o leiaf 250 cm2 o fan o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros o leiaf un traean o arwynebedd y llawr.
4.
Rhaid adeiladu lloriau gosodiadau fel y gallant gynnal pob un o grafangau'r iâr sy'n wynebu ymlaen ar bob troed.
5.
Yn ychwanegol at ofynion paragraffau 2 a 3 -
6.
Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob metr sgwâr o le y gellir ei ddefnyddio.
7.
Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn defnyddio system yr oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a bod y sefydliad yn dal i ddefnyddio'r system hon cyn 6 Awst 2002, awdurdodir dwysedd stocio o 12 iâr i bob metr sgwâr tan 31 Rhagfyr 2011.
ATODLEN 3B
SYSTEMAU CEWYLL CONFENSIYNOL
1.
O 1 Ionawr 2003 rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy nad ydynt wedi'u gwella gydymffurfio â'r gofynion canlynol:
(a) rhaid darparu o leiaf 550 cm2 i bob iâr o arwynebedd cawell, wedi'i fesur mewn plân llorweddol, a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad, yn benodol heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, ar gyfer pob iâr ddodwy, ond os yw'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff wedi'i osod er mwyn peidio â chyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael i'r ieir ei ddefnyddio, yna gall yr arwynebedd hwnnw gael ei gynnwys yn y mesuriad;
(b) rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf;
(c) oni bai bod pigynnau dr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell;
(ch) rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 550cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);
(d) rhaid adeiladu lloriau'r cewyll fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr. Rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal ac 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr;
(dd) rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
2.
Gwaherddir magu ieir dodwy yn y cewyll y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.
3.
Ni ellir adeiladu cewyll o'r math y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon, na dechrau eu defnyddio am y tro cyntaf, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.
ATODLEN 3C
SYSTEMAU CEWYLL GWELL
1.
Rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen.
2.
Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio er mwyn magu ieir dodwy ar 1 Ionawr 2003 neu ar ôl hynny gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
3.
Rhaid i ieir dodwy gael -
(a) o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono allu cael ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben y lle y gellir ei ddefnyddio fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt ac ni all unrhyw gawell fod yn llai na 2000 cm2 o gyfanswm arwynebedd;
(b) nyth;
(c) llaesodr sy'n golygu ei bod yn bosibl pigo a chrafu;
(ch) clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.
4.
Rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 12 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf.
5.
Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y gr r fewn cyrraedd i bob iâr.
6.
Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a haen isaf y cewyll.
7.
Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
ATODLEN 3Ch
AMODAU SY'N GYMWYS I BOB SYSTEM
1.
Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.
2.
Rhaid cadw lefel y s n.
3.
Rhaid cael lefelau digonol o olau ym mhob adeilad i ganiatáu i bob iâr weld ei gilydd a chael ei gweld yn glir, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau gweithgarwch arferol. Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni mewn ffordd sy'n golygu bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.
Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad. Gan hynny, rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod di-dor digonol o dywyllwch sy'n para tua un rhan o dair o'r diwrnod, er mwyn i'r ieir gael gorffwys ac i osgoi problemau megis gostwng imwnedd ac anhwylderau ar y llygaid. Dylid darparu gwyll digon hir, pan gaiff y golau ei bylu, er mwyn i'r ieir setlo heb gael eu haflonyddu na'u hanafu.
4.
Rhaid i'r rhannau hynny o adeiladau, offer neu lestri sydd mewn cysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n rheolaidd a phob tro y ceir diboblogi beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn. Tra bydd ieir yn y cewyll, rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân. Rhaid i dom gael ei symud ymaith mor aml ag y bydd angen a rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.
5.
Rhaid cyfarparu'r cewyll yn addas i atal yr ieir rhag dianc.
6.
Rhaid i lety sy'n cynnwys dwy neu fwy o haenau o gewyll gael dyfeisiau neu rhaid cymryd mesurau priodol i ganiatáu i bob haen gael ei harchwilio heb anhawster ac i hwyluso symud ieir oddi yNo.
7.
Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i iâr lawndwf gael ei thynnu oddi yno heb ddioddef yn ddiangen a heb ei niweidio.
8.
Yn ddarostyngedig i baragraff 9, ni chaiff unrhyw berson lurgunio unrhyw iâr ddodwy.
9.
Er mwyn osgoi plubigo a chanibaliaeth, hyd at 31 Rhagfyr 2010 caniateir tocio pigau adar yn yr holl systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C ar yr amod ei fod yn cael ei wneud -
(a) gan bersonau dros 18 oed;
(b) i ieir sy'n llai na 10 diwrnod oed y bwriedir hwy ar gyfer dodwy; ac
(c) yn unol â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962[4].".
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC dyddiedig 19 Gorffennaf 1999 sy'n nodi safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy (O.J. L203, 03/08/1999 t.35 - 57).
Mae'r Rheoliadau'n gwneud y diwygiadau canlynol i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2682 (Cy.223)) ("y Prif Reoliadau") -
Mae'r diffiniad o "iâr ddodwy" yn y Prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio ac mae diffiniadau newydd ar gyfer "llaesodr", "nyth" a "lle y gellir ei ddefnyddio" yn cael eu mewnosod (rheoliad (2).
Mewnosodir rholiad 5 ac Atodlen 3 newydd i gymhwyso gofynion mewn perthynas â chadw ieir dodwy mewn systemau heblaw y rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau (rheoliadau 2(4) a (7)).
O 6 Awst 2002 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu (ysguboriau, clwydfeydd a systemau buarth) gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir mewn Atodlen 3A newydd sy'n cael ei mewnosod yn y Prif Reoliadau. Rhaid i bob system o'r fath gydymffurfio â'r Atodlen 3A newydd o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae Atodlen 3A yn nodi'r gofynion mewn perthynas â lle i ieir fwydo, maint cafnau yfed, lle i'r nyth, clwydi, man o dan laesodr, adeiladwaith y gosodiadau a dwysedd stocio.
O 1 Ionawr 2003 ymlaen, bydd darpariaethau newydd yn gymwys ar gyfer lles ieir sy'n cael eu cadw mewn cewyll confensiynol ("batri"). Mae Atodlen 3B newydd yn nodi safonau gofynnol mewn perthynas ag arwynebedd cawell i bob iâr, cafnau bwydo, darparu d r, uchder y cewyll, adeiladwaith y lloriau a darparu dyfeisiau ar gyfer cwtogi crafangau. Gwaherddir defnyddio cewyll confensiynol o 1 Ionawr 2012 ymlaen ac ni all unrhyw gewyll o'r fath gael eu hadeiladu, na dechrau cael eu defnyddio, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.
Mae Atodlen 3C newydd yn cael ei mewnosod, sy'n nodi safonau gofynnol uwch ar gyfer systemau cewyll ar gyfer magu ieir dodwy a fydd yn gymwys i bob system gewyll o 1 Ionawr 2012 ymlaen. Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio o 1 Ionawr 2003 ymlaen gydymffurfio â'r safonau uwch hyn.
Nodir safonau cyffredinol a fydd yn gymwys i bob system newydd ar gyfer magu ieir dodwy mewn Atodlen 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau. Mae'n cynnwys gofynion mewn perthynas ag archwilio ieir, lefelau sn, darparu golau, glanhau a diheintio, dylunio cewyll a gwahardd llurgunio, ond mae'n caniatáu tocio pigau tan 31 Rhagfyr 2010, o dan amodau penodol, gan gynnwys cydymffurfio â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1968 p.34. Gweler adran 50 i gael diffiniad o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, cafodd pwerau "the Ministers" eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[2]
O.S. 2001/2682 (Cy. 223).back
[3]
OJ Rhif L 203, 3.8.99, t.53back
[4]
O.S. 1962/2557.back
English
version
ISBN
0 11090545 8
|
Prepared
13 August 2002