British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021885w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1885 (Cy.194)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
PYSGOD CREGYN
Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
5 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967[
1] a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 5 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac i'r môr gerllaw Cymru hyd at ffin forol y môr tiriogaethol.
Dynodi cramenogion
2.
Pennir drwy hyn grancod at ddibenion adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru[
2]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn ychwanegu crancod at y mathau o bysgod cregyn sy'n dod o dan adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 ("Deddf 1967"). Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i sefydlu pysgodfeydd crancod unigol neu bysgodfeydd crancod wedi'u rheoleiddio drwy orchmynion o dan yr adran honNo.
Pennwyd cregyn bylchog a chwiniaid at ddiben adran 1 o Ddeddf 1967 gan Reoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Molysgiaid) 1987 (O.S. 1987/218).
Notes:
[1]
1967 p.38; gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 1(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77) adran 15(2), gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd Môr 1976 (p. 86) Atodlen 2, paragraff 15, gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p.3) adran 1, a chan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Newidiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820) Atodlen 2, paragraff 42(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Gweinidog priodol" mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[2]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090557 1
|
Prepared
23 August 2002