British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021880w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1880 (Cy.189)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997[
3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle "£11,952" rhoddir "£12,227".
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir -
"
(a) £75 where the relevant income does not exceed £11,368; and
(b) £39 where that income exceeds £11,368 but does not exceed £12,227."
(4) Yn rheoliad 4 -
(a) ym mharagraff (3), yn lle "£11,129" rhoddir "£11,381"; a
(b) ym mharagraff (4) -
(i) yn lle "£11,129" rhoddir "£11,381", a
(ii) yn lle "£10,950" rhoddir "£11,202".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honNo.
Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2002/2003 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.
Notes:
[1]
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy.137) ac O.S. 2001/2708 (Cy.227).back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090548 2
|
Prepared
15 August 2002