British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021879w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1879 (Cy.188)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[
1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolydd ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honNo.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[
3]fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,430" ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir "£1,465".
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£11,116" rhoddir "£11,368".
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol -
"TABLE
(1)
|
(2)
|
(3)
|
(4)
|
Part of relevant income to which specified percentage applies
|
Only assisted pupil (%)
|
Each of two assisted pupils (%)
|
Each of three assisted pupils (%)
|
That part (if any) which exceeds £11,202 but does not exceed £12,181 |
9 |
6.75 |
5.25 |
That part (if any) which exceeds £12,181 but does not exceed £13,175 |
12 |
9 |
7 |
That part (if any) which exceeds £13,175 but does not exceed £15,147 |
15 |
11.25 |
8.75 |
That part (if any) which exceeds £15,147 but does not exceed £18,188 |
21 |
15.75 |
12.25 |
That part (if any) which exceeds £18,188 but does not exceed £22,151 |
24 |
18 |
14 |
That part (if any) which exceeds £22,151 |
33 |
24.75 |
19.25" |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn rhagnodi trefniadau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honNo.
Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" mewn perthynas â pherthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,430 i £1,465.
Ar lefel incwm benodol, neu o dan y lefel honno, nid yw'r ffioedd yn cael eu casglu o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu i £11,368 yn lle £11,116, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw.
Notes:
[1]
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
[2]
Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136) ac O.S. 2001/2680 (Cy.221).back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090547 4
|
Prepared
15 August 2002