British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021877w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1877 (Cy.186)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 iddi[
1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], a phob p

er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3] ac mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yng Ngorchymyn 1995.
Diwygio Gorchymyn 1995
3.
Mewnosodwch yng Ngorchymyn 1995, ar ôl erthygl 5 -
Darpariaethau trosiannol
4.
Nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Orchymyn 1995 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir cyn y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 mewn perthynas â Chymru er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol bod datganiad ysgrifenedig bod y cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u hosod, yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amleddau radio yn cyd-fynd â phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system delathrebu.
Mae llawer ffurf ar ddatblygu sy'n perthyn i gyfarpar telathrebu yn mwynhau hawliau datblygu a ganiateir o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Trwy ddiwygiad i'r Gorchymyn hwnnw, mae gofyniad yn cael ei gyflwyno hefyd fod datganiad tebyg yn cyd-fynd â cheisiadau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru am ddyfarniadau ynghylch a yw cymeradwyaeth o flaen llaw yn ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw lle bo gofyn am gais felly mewn cysylltiad â datblygu sy'n ymwneud ag adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu.
Notes:
[1]
1990 p.8.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7), a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S.1995/419.back
[4]
1984 p. 12; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1997/2930.back
[5]
1999/519/EC.back
[6]
1998 p.38back
English
version
ISBN
0 11090536 9
Prepared
5 August 2002