Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021857w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1857 (Cy.181)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[
1] a freinwiyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "addysg bellach" yr ystyr a roddir i "further education" yn adran 2(3) o Ddeddf 1996;
mae i "addysg uwch" yr ystyr a roddir i "higher education" yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "awdurdod addysg" ("education authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr "Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad" ("Assembly Learning Grant Scheme") yw'r Cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac sy'n nodi'r amodau ynghylch gwneud grant gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn, i ad-dalu gwariant a gymeradwywyd yr aiff awdurdodau addysg iddo wrth dalu Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002[3];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedalethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "grant" ("grant") yw grant taladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr "gwariant a gymeradwywyd" ("approved expenditure") yw unrhyw wariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn ôl y ddarpariaeth yn rheoliad 3;
ystyr "gwariant a ragnodwyd" ("prescribed expenditure") yw gwariant gan awdurdod addysg at ddiben neu yng nghyswllt diben a bennir yn yr Atodlen;
ystyr "penderfynu" ("determine") yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn y mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, y mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac y mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef
3.
Ni fydd grant ond yn daladwy mewn perthynas â gwariant a ragnodwyd yr aed iddo neu yr eir iddo mewn blwyddyn ariannol i'r graddau bod y gwariant hwnnw wedi ei gymeradwyo ar gyfer y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn.
Grant mewn perthynas â thaliadau i drydydd partïon
4.
Os -
(a) bydd awdurdod addysg yn mynd i wariant wrth wneud taliadau i unrhyw gorff neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n mynd i wariant at neu yng nghyswllt dibenion addysgol, a
(b) y byddai'r gwariant gan dderbynnydd y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,
rhaid i daliadau o'r fath i'r graddau hynny gael eu trin fel gwariant a ragnodwyd at ddiben y Rheoliadau hyn.
Cyfradd y Grant
5.
Mae grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd i gael ei dalu ar gyfradd o 100 y cant o'r cyfryw wariant a gymeradwywyd.
Amodau talu grant
6.
- (1) Nid yw grant i gael ei dalu ac eithrio fel ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog yr awdurdod ac sy'n gyfrifol am weinyddu eu materion ariannol neu ddirprwy y swyddog hwnnw.
(2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o gyfnodau sy'n dechrau ar neu wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwneir cais mewn perthynas ag ef ac yr aeth neu yr amcangyfrifir yr aiff yr awdurdod addysg iddo yn ystod pob cyfnod o'r fath.
(3) Pan gyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd yr aed iddo neu yr amcangyfrifir yr eir iddo yn ystod unrhyw un neu ragor o gyfnodau mewn unrhyw flwyddyn ariannol o dan baragraff (1) caiff y cyfryw daliad ag y penderfyna'r Cynulliad Cenedlaethol arno wneud yn ddi-oed.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliad o dan baragraff (3), nid yw grant pellach i gael ei dalu mewn perthynas â'r gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwnnw neu'r cyfnodau hynny hyd nes i ddatganiad -
(a) am bob cyfnod o'r fath, neu
(b) am y flwyddyn ariannol y mae pob cyfnod o'r fath yn syrthio o'i mewn,
gael ei gyflwyno yn unol â pharagraff (6)(a).
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill wedi iddo dderbyn datganiad yr awdurdod addysg ac y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(a) (heb ragfarnu addasiad unrhyw dandaliad neu ordaliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall) gael ei addasu naill ai drwy daliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol neu drwy gael ei gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw daliad canlynol o grant i'r awdurdod addysg.
(6) Rhaid i bob awdurdod addysg sydd wedi cael neu sy'n ceisio cael taliad grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol neu gyfnod ohoni, cyn 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu cyn gynted ag sy'n ymarferol wedi'r dyddiad hwnnw -
(a) gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad y mae'n rhaid iddo bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwnaed cais neu y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef, ac yr aeth yr awdurdod addysg iddo yn ystod y flwyddyn honno neu gyfnod ohoni; a
(b) sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif a lofnodwyd gan yr archwilydd a benodir gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd cymwys i'r cyfryw benodiad yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998[4] ac sy'n ardystio bod y manylion a nodwyd yn y datganiad neu'r datganiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn yn ei farn ef wedi'u nodi'n deg a bod y gwariant yr aed iddo yn wariant a gymeradwywyd at ddiben y Rheoliadau hyn.
(7) Ac eithrio'r flwyddyn gyntaf wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, nid yw grant i gael ei dalu mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu'r eir iddo gan awdurdod addysg yn y cyfnod 1 Ionawr i 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu unrhyw gyfnod canlynol os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant mewn blwyddyn ariannol flaenorol ac nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b) am y flwyddyn honNo.
(8) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill, wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mahragraff (6)(b) gael ei addasu drwy daliad rhwng yr awdurdod addysg a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond os nad yw'r awdurdod yn cydymffurfio gellir ei addasu mewn unrhyw daliad o grant a wneir i'r awdurdod wedi hynny.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr "cyfnod" yw un o'r cyfnodau canlynol -
(a) 1 Ebrill i 31 Gorffennaf;
(b) 1 Awst i 31 Rhagfyr;
(c) 1 Ionawr i 31 Mawrth.
7.
Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo'r gwariant at ddiben y Rheoliadau hyn, yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas â'r diben hwnnw, bydd talu grant yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg am dalu'r grant.
8.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd gwneud unrhyw daliad o dan y Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.
(2) Pan fydd amodau wedi eu penderfynu arnynt o dan y rheoliad hwn ni ellir talu grant oni bai i'r cyfryw amodau gael eu cyflawni neu eu tynnu o dan baragraff (3).
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio amodau y penderfynwyd arnynt o dan y rheoliad hwn.
Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy
9.
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn, roi iddo'r cyfryw wybodaeth bellach ag y gall fod ei hangen arno i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu yn briodol o dan y Rheoliadau hyn.
10.
- (1) Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo gydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.
(2) Caiff gofynion y penderfynir arnynt o dan y rheoliad hwn gynnwys yn benodol ofynion o ran -
(a) ad-dalu'r grant; neu
(b) talu llog ar symiau sy'n ddyledus i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002
ATODLENRheoliadau 2, 3 a 7
Y DIBEN Y MAE GRANT YN DALADWY AR EI GYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD AG EF
Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Llywodraeth Leol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol)(Cymru) 2002 i bersonau -
(a) sy'n dilyn cwrs o addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad,
(b) nad yw eu hadnoddau ariannol, fel y'u haseswyd yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwnnw, yn uwch na lefel yr adnoddau ariannol a bennir yn yr amodau cymhwyster ar gyfer y Cynllun hwnnw, ac
(c) sy'n bodloni amodau cymhwyster eraill (os oes rhai) ar gyfer y Cynllun hwnnw,
mewn perthynas â'u costau byw a chostau eraill (ond gan eithrio costau sy'n cynnwys cost ffioedd mewn perthynas â neu yng nghyswllt cyrsiau).
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion neu yng nghyswllt dibenion addysgol yr ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai'r awdurdodau gael eu hannog i fynd iddynt er budd addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r cyfryw grant.
Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grant yn daladwy ond mewn perthynas â'r diben a bennir yn yr Atodlen, a dim ond i'r graddau y cymeradwyir y gwariant gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol wrth dalu i drydydd partïon ac a fyddai'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.
Mae Rheoliad 5 yn darparu bod grant yn daladwy ar gyfradd o 100%.
Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys mewn perthynas â thalu grant, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae Rheoliad 9 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, y gwnaed y taliadau grant iddynt, gydymffurfio â hwy. Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.
Mae'r Atodlen yn nodi at ba ddiben neu yng nghyswllt pa ddiben y ceir talu grant, sef i wneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol yng nghyswllt y cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r enw Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun caiff awdurdodau addysg lleol dalu dyfarndaliadau i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac a ddynodwyd at ddibenion y Cynllun, ac sy'n bodloni'r amodau o ran adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun. Diben y Cynllun yw galluogi pobl sy'n brin eu hadnoddau ariannol i gymryd mantais o gyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt, drwy leihau caledi ariannol.
Notes:
[1]
1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. Am ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2002/1856 (Cy.180)back
[4]
1998 p.18back
[5]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090538 5
|
Prepared
6 August 2002