British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021795w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1795 (Cy.170)
IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
9 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974[
1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[
2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Cymeradwyo codau ymarfer
2.
Mae Codau Ymarfer canlynol y Sefydliad Safonau Prydeinig ("
British Standards Institution") wedi'u cymeradwyo fel codau addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd ar leiafu s
![wcirc](/wales/legis/num_reg/2002/images/wcirc.gif)
n:
(a) y Cod Ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli s
n a dirgryniad, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 1: 1997 gan ymgorffori Diwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 15 Ebrill 1999 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill);
(b) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i echdynnu glo arwyneb drwy ddefnyddio dulliau cloddio brig, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 3: 1997, a ddaeth rym ar 15 Mai 1997;
(c) y Cod Ymarfer ar gyfer rheoli s
n a dirgryniad sy'n gymwys i waith gosod pyst, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 4: 1992, a ddaeth i rym ar 1 Mai 1992, fel y'i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1 a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 1993 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill); ac
(ch) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i safleoedd echdynnu mwynau (heblaw glo) arwyneb, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 5: 1997, a ddaeth i rym ar 15 Tachwedd 1997.
Diddymu
3.
Mae Gorchymyn Rheoli S
n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987[4] wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo codau ymarfer er mwyn rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leiafu s
![wcirc](/wales/legis/num_reg/2002/images/wcirc.gif)
n (sy'n cynnwys dirgryniad) a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo cod ymarfer o'r fath ar gyfer cyflawni gweithfeydd y mae adran 60 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a thrwsio ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o weithfeydd adeiladu peirianyddol.
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo codau ymarfer wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo'r pedwar cod ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2. Mae'r cod ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli s
![wcirc](/wales/legis/num_reg/2002/images/wcirc.gif)
n a dirgryniad a grybwyllir yn Erthygl 2(a) yn gymwys i bob safle adeiladu a safle agored. Mae'r codau ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2(b), (c) a (ch) yn gymwys, yn ychwanegol, i echdynnu glo arwyneb, gwaith gosod pyst a safleoedd echdynnu mwynau arwyneb yn y drefn honNo.
Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Rheoli S
![wcirc](/wales/legis/num_reg/2002/images/wcirc.gif)
n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 mewn perthynas â Chymru.
Gellir cael copiau o'r codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo, yn bersonol neu drwy'r post, oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig ("British Standards Institution"). Eu cyfeiriad yw Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.
Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo:
BS 5228: Rhan 1: 1997 (gyda Diwygiad 1) |
ISBN 0 580 26845 4 |
BS 5228: Rhan 3: 1997 |
ISBN 0 580 26874 8 |
BS 5228: Rhan 4: 1992 |
ISBN 0 580 20381 6 |
BS 5228: Rhan 5: 1997 |
ISBN 0 580 28306 2 |
Notes:
[1]
1974 p.40.back
[2]
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S. 1984/1992.back
[4]
O.S. 1987/1730.back
[5]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090526 1
|
Prepared
29 July 2002