Wedi'u gwneud | 9 Gorffennaf 2002 | ||
Yn dod i rym | 31 Gorffennaf 2002 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "yr hysbysiad o benderfyniad" ("the decision notice") -
y mae'r apêl yn berthnasol iddo.
Cynnwys hysbysiad apêl
3.
Rhaid i hysbysiad apêl -
4.
Caiff hysbysiad apêl fod yn Gymraeg neu Saesneg ond os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng un o'r ddwy iaith heblaw'r un y mynegir yr hysbysiad apêl ynddi, dylai cais i'r perwyl hwnnw gael ei gynnwys yn yr hysbysiad apêl neu gael ei amgau gydag'r hysbysiad.
Dechrau apêl
5.
Dechreuir apêl drwy anfon hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Camau i'w cymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl cael hysbysiad apêl
6.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn hysbysiad apêl, anfon copi ohono i'r Cyngor, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen arall a amgaewyd gydag ef.
(2) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol -
(b) i hysbysiad apêl y mae'r apelydd, mewn manylyn perthnasol, wedi methu cydymffurfio â gofynion rheoliad 3 mewn perthynas ag ef, ond mewn achos o'r fath caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i'r apelydd o natur y methiant hwnnw a'r camau sy'n angenrheidiol i'w gywiro ac os bydd yr apelydd, cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o'r fath yn cymryd y camau gofynnol, ni fydd yr is-baragraff bellach yn gymwys i'r hysbysiad apêl o dan sylw.
Y camau sydd i'w cymryd gan y Cyngor ar ôl cael copi o'r hysbysiad apêl
7.
- (1) Rhaid i'r Cyngor, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael copi o'r hysbysiad apêl gan y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig -
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) -
(d) datgan y bydd derbynnydd sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff (2)(ch)(i), os bydd ymchwiliad lleol i'w gynnal, neu os bydd gwrandawiad i'w gynnal a fydd yn gyhoeddus yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lleoliad yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) a anfonir at barti rheoliad 7(1)(b) gynnwys datganiad y dylai unrhyw barti sy'n dymuno cael gwrandawiad gan berson wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) amgau datganiad i'r perwyl hwnnw gydag unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac os yw'n gwneud felly, y dylai amgau datganiad pellach a yw'r parti hwnnw'n dymuno cael ei glywed mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad.
Ymateb gan y Cyngor i apêl
8.
Rhaid i'r Cyngor, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol gopi o hysbysiad apêl, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at yr apelydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b) -
Hysbysiad o'r weithdrefn apelio
9.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynharach na 28 diwrnod ar ôl y diweddaraf o unrhyw ddyddiadau a nodir gan y Cyngor yn unol â rheoliad 8(d) fel y dyddiadau pan anfonodd y Cyngor hysbysiadau o dan reoliad 7(1) ond mor fuan ag sy'n ymarferol wedyn, anfon:
hysbysiad yn pennu pa ffurf a fydd i'r apêl.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gael ei ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf:
(3) Dyddiad yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) yw'r "dyddiad dechrau" at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ddatgan hefyd ai'r person sydd i'w benodi i ystyried sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu, os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol neu wrandawiad, i lywio'r ymchwiliad cyhoeddus neu'r gwrandawiad, yw'r person y mae swyddogaeth penderfynu'r apêl i'w dirprwyo iddo ond os yw'n gwneud hynny caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg benderfynu'n hytrach ei fod ef ei hunan yn penderfynu'r apêl a rhaid iddo, os yw'n penderfynu felly, roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y mae'n rhesymol ymarferol, i'r personau hynny y rhoddwyd hysbysiad o'r fath iddynt o dan baragraff (1).
Darparu sylwadau eraill i'r apelydd ac i'r Cyngor
10.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ar ôl iddynt gael eu derbyn ag y mae'n rhesymol ymarferol, anfon at yr apelydd, i'r Cyngor ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopïau o unrhyw sylwadau a ddaeth i law'r Cynulliad Cenedlaethol oddi wrth unrhyw un heblaw'r Cyngor a'r apelydd, y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cymryd i ystyriaeth mewn perthynas â'r apêl.
Tynnu apêl yn ôl
11.
- (1) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn dymuno gwneud hynny.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, hysbysu'r ffaith honno i'r holl bersonau hynny y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 9(1).
Newid yn ffurf apêl
12.
Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ei bod yn fwy priodol bod yr apêl yn cael ei phenderfynu mewn modd sy'n wahanol i'r ffurf a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 9(2) caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael unrhyw gydsyniad y Cyngor neu'r apelydd sy'n ofynnol gan ddarpariaethau Deddf 1981, benderfynu bod yr apêl i barhau mewn ffurf heblaw honno a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw gyfarwyddyd canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl gan gynnwys nodi unrhyw gamau sy'n ofynnol eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn y bernir eu bod eisoes wedi'u cymryd gan amrywio yn ôl yr angen y cyfnod y mae'n rhaid cymryd o'i fewn unrhyw gam o'r fath nad yw eisoes wedi ei gymryd.
Apelau a benderfynir ar sail sylwadau ysgrifenedig
13.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r Cyngor, o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad dechrau, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at yr apelydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill, yn ychwanegol at y rhai a anfonwyd eisoes i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7, y mae'n dymuno dibynnu arnynt wrth wrthwynebu'r apêl neu, os nad yw'n dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau neu ddogfennau pellach o'r fath, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.
(3) Rhaid i'r apelydd, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill yn unol â pharagraff (2) (neu hysbysiad nad yw'r Cyngor yn bwriadu dibynnu ar unrhyw rai) anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'r Cyngor ac i unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill, yn ychwanegol at y rhai a anfonwyd eisoes i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3, y mae'r apelydd yn dymuno dibynnu arnynt i gefnogi'r apêl neu, os nad yw'r apelydd yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill o'r fath, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd y Cyngor a'r apelydd i anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'w gilydd ac i unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), o fewn amser rhesymol y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill o'r fath y mae'n credu bod angen amdanynt er mwyn galluogi i'r apêl gael ei phenderfynu, gan gynnwys unrhyw sylwadau ar unrhyw gynrychioliad a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y dyddiad dechrau oddi wrth unrhyw berson heblaw'r apelydd a'r Cyngor y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu'r apêl ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi anfon copïau ohonynt at yr apelydd ac i'r Cyngor.
Apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad
14.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad.
(2) Heblaw fod y Rheoliadau hyn yn darparu yn wahanol, gall y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn perthynas â gwrandawiad.
(3) Rhaid i'r Cyngor a'r apelydd, o fewn 42 diwrnod o'r dyddiad dechrau, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ei gilydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), ddatganiad ysgrifenedig (ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau, ffotograffau, mapiau neu blaniau y cyfeirir atynt yn y datganiad hwnnw) sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y mae'r person hwnnw yn bwriadu eu cyflwyno yn y gwrandawiad.
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor neu'r apelydd ddarparu, o fewn cyfnod rhesymol y gall ei bennu, wybodaeth bellach benodedig y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn berthnasol i'r apêl a rhaid i unrhyw barti y mae'n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth bellach o'r fath, anfon copi at y parti arall pan fydd yn ei hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn llai na 42 diwrnod cyn y dyddiad y mae wedi'i bennu i gynnal y gwrandawiad (neu gyfnod byrrach o'r fath y gall yr apelydd a'r Cyngor gytuno arno), roi i'r apelydd, y Cyngor ac unrhyw barti rheoliad 7(1)(b) hysbysiad o'r dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad hwnnw ac enw'r person a benodwyd i'w lywio.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn llai na 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad -
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys i'r dyddiad a gafodd ei amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys ar gyfer y dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle a bennir ar gyfer y gwrandawiad, ac os digwydd hynny rhaid iddo roi hysbysiad o'r amrywiad hwnnw y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.
(9) Dyma'r personau sydd â hawl i gael eu clywed mewn gwrandawiad -
(10) Caiff y person sy'n llywio'r gwrandawiad ganiatáu i unrhyw berson arall gael ei glywed ac ni cheir gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
(11) Gellir cynnal y gwrandawiad yn breifat yn gyfan gwbl neu'n rhannol os yw'r apelydd yn gofyn am hynny a bod y person sy'n llywio'r gwrandawiad yn cytuno â hynny.
(12) Caiff y person sy'n llywio'r gwrandawiad ei ohirio o dro i dro ac os cyhoeddir yr amser a'r lle y bydd y gwrandawiad yn ailddechrau yn y gwrandawiad pan gaiff ei ohirio, ni fydd hysbysiad pellach yn ofynnol.
Apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl ymchwiliad lleol
15.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth anfon hysbysiad o dan reoliad 9(1) bod apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, roi hysbysiad ysgrifenedig ar yr un pryd i'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a), (b) a (c) o'r weithdrefn sydd i'w chymhwyso a chaiff o dro i dro wedyn roi canllawiau pellach o ran y weithdrefn i'w dilyn fel y bo'n briodol.
Ymweliad â'r safle
16.
- (1) Caiff y person penodedig ymweld â'r tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo ond rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o'i fwriad i wneud hynny i'r apelydd a'r Cyngor a rhoi cyfle rhesymol iddynt neu i unrhyw berson a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan i fod yn bresennol.
(2) Rhaid i apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn pwer yr apelydd er mwyn galluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir o dan sylw.
Penderfyniad gan berson penodedig
17.
Os yw swyddogaeth penderfynu'r apêl wedi'i dirprwyo i'r person penodedig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, i'r holl bersonau oedd â hawl i ymddangos yng ngwrandawiad yr apêl (p'un a ddigwyddodd gwrandawiad neu beidio) ac i unrhyw berson arall a ofynnodd i gael ei hysbysu am y penderfyniad yn unol â rheoliad 7(2)(ch)(ii).
Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol
18.
Os nad yw rheoliad 17 yn gymwys i benderfynu apêl, rhaid i'r person a benodwyd i ystyried y sylwadau ysgrifenedig neu i lywio'r ymchwiliad lleol neu'r gwrandawiad, yn ôl y digwydd, baratoi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ymgorffori casgliadau ac argymhellion y person hwnnw ynddo a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ystyried yr adroddiad hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, i'r holl bersonau oedd â hawl i ymddangos yng ngwrandawiad yr apêl (p'un a ddigwyddodd gwrandawiad neu beidio) ac i unrhyw berson arall a ofynnodd i gael ei hysbysu am y penderfyniad yn unol â rheoliad 7(2)(ch)(ii).
Gweithdrefnau pellach neu wahanol
19.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i apêl benodol yn peri bod angen hynny, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gamau penodedig yn cael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at, neu yn lle, y rheiny a ragnodir gan y Rheoliadau hyn a gall estyn yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, er mwyn cymryd unrhyw gam, ond cyn iddo wneud hynny, onid yw'r effaith wedi'i gyfyngu i estyniad amser, rhaid iddo ymgynghori â'r apelydd a'r Cyngor ac ystyried unrhyw sylwadau y gallant eu gwneud ynghylch dymunoldeb gofyniad o'r fath.
Pwerau person penodedig
20.
Gall pwerau a dyletswyddau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn gael eu harfer gan berson penodedig ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau at y Cynulliad Cenedlaethol i'w dehongli yn unol â hynny.
Defnyddio cyfathrebu electronig
21.
Gall unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu a awdurdodwyd ei hanfon gan un person at un arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael ei hanfon, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen sail resymol dros gredu y daw'r ddogfen i sylw'r person yr anfonir hi ato, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2002
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi o fewn pa amser y mae'n rhaid dwyn apêl o dan adran 28(L)(1) o Ddeddf 1981, sef bod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ei derbyn o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad rheoli y mae'n berthnasol iddo oni chytunwyd ar gyfnod hwy gan y Cyngor a'r apelydd.
[3] Cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, fel y'i diwygiwyd gan adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back