British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021735w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1735 (Cy.165)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
4 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
23 Gorffennaf 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2), (4) a (6) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 7A i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau ag y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2].
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 23 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau 1993
2.
Caiff Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993[3] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
Yr amgylchiadau ar gyfer gwneud cynigion
3.
Yn rheoliad 4A -
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (b) mewnosodwch -
(b) ym mharagraff (4) -
(i) yn lle "either of the grounds set out in sub-paragraph (c) or (e)" rhowch "any of the grounds set out in sub-paragraph (bb), (c) or (e)"; a
(ii) yn lle "the alteration in question" rhowch "the alteration or amendment in question".
Y cyfnodau ar gyfer gwneud cynigion: rhestr 2000 a rhestrau sy'n dilyn
4.
Yn lle rheoliad 4C(2), rhowch -
Yr amser pan fo'r addasiad i gael effaith: cyffredinol
5.
- (1) Ar ôl rheoliad 13A(4), mewnosodwch -
(2) Yn rheoliad 13A(13) -
(3) Ar ôl is-baragraff (13), mewnosodwch y paragraff canlynol -
Apelau ynghylch ardystiad
6.
Yn rheoliad 30(2), yn lle "six months" rhowch "a year".
Apelau
7.
Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o apêl yn rheoliad 2(1) ac yn rheoliadau 2(3)(a), 34(5), 38(1)(b), 40(12), 44(2) a 47(1), ar ôl "Regulations 1994" mewnosodwch "or under regulation 12 of the Non-Domestic Rating (Chargeable Amounts) (Wales) Regulations 1999[5]".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 yn rheoli newid rhestri ardrethu annomestig. Maent yn darparu ar gyfer newid rhestri gan swyddogion prisio, cynigion i newid gan bersonau eraill ac apelau i dribiwnlysoedd prisio lle ceir anghytundeb rhwng cynnig gan swyddog prisio a'r cynigydd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru -
(a) i gynnwys sail newydd ar gyfer gwneud cynnig i newid rhestr (rheoliad 3);
(b) i ymestyn y cyfnod pryd y gellir gwneud cynnig o dan reoliad 4A(1)(c) (cynnig i addasu gwerth trethiannol pan fo'r gwerth sy'n cael ei ddangos yn y rhestr yn anghywir o ganlyniad i newid blaenorol a wnaed gan swyddog prisio) (rheoliad 4);
(c) i ddiwygio rheoliad 13A (sy'n darparu ar gyfer y dyddiad pan gaiff newid, os yw'n llwyddiannus, effaith yn y rhestr ardrethu) (rheoliad 5);
(ch) ymestyn y cyfnod pryd y gellir gwneud apêl yn erbyn ardystiad (rheoliad 6); a
(d) gwneud mân newidiadau eraill (rheoliad 7).
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1993/291; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/1809, 1995/609, 1995/623, 2000/792 (Cy. 29) a 2001/1203 (Cy .64).back
[4]
O.S. 2000/1097 (Cy.75) fel y 'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2357 (Cy. 195).back
[5]
O.S. 1999/3454 (Cy. 51).back
[6]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090539 3
Prepared
5 August 2002