British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021729w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1729 (Cy.163)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
4 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
19 Gorffennaf 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2].
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 1970" yw Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
Dynodi cyrff cyhoeddus
2.
Bydd y personau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, gan eu bod yn bersonau y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2002
YR ATODLENErthygl 2
Cyrff Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn rhoi p
er hwn yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.
Notes:
[1]
1970 p.39.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090528 8
|
Prepared
1 August 2002