British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021441w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1441 (Cy.145)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002
|
Wedi'i wneud |
28 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
25 Mehefin 2002 | |
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
1], ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[
2], a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2.
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mai 2002
Yr Atodlen
ENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW
Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector
Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peiriannol
Comisiynydd Plant Cymru
Cyngor Deintyddol Cyffredinol
Cyngor Defnyddwyr Gwasanaethau Post
Cyngor Defnyddwyr Nwy a Thrydan
Cyngor Gofal Cymru
Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
Cyngor Meddygol Cyffredinol
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd
Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru a Lloegr
Pwyllgor Teithwyr Rheilffyrdd - Cymru
Tribiwnlysoedd Prisio Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Mae tri Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (2001/2550 (Cy.215)).
Notes:
[1]
1993 p.38back
[2]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090505 9
|
Prepared
19 June 2002