British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021432w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1432 (Cy.143)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
NEWIDIADAU I ARDALOEDD LLYWODRAETH LEOL
Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002
|
Wedi'i wneud |
29 Ebrill 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mai 2002 | |
Gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[
1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2], wedi gwneud Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002;
mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol er mwyn gwneud newidiadau i ddarpariaethau penodol yn y gorchymyn blaenorol hwnnw yngl
n â dyddiad dileu cymuned Cynffig a dyddiad cynnal etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2002.
Diwygio Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002
2.
- (1) Diwygir Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn lle "2 Mai" rhowch "20 Mehefin".
(3) Ym mharagraff (1) o Erthygl 4, yn lle "6 Mai" rhowch "24 Mehefin".
Llofnodwyd
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
29 Ebrill 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwnaed Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 28 Mawrth 2002 er mwyn dileu cymuned Cynffig a chreu dwy gymuned newydd sef cymuned Corneli a chymuned y Pîl. Gwnaed y Gorchymyn hwnnw o dan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n diwygio'r Gorchymyn hwnnw, yn cael ei wneud o dan yr un pwerau ac mae'n newid dyddiad dileu cymuned Cynffig o 2 Mai 2002 i 20 Mehefin 2002. Bydd yr etholiadau i'r ddau gyngor cymuned newydd sef cymuned Cynffig a chymuned y Pîl ar 20 Mehefin yn rhinwedd y Gorchymyn hwn. Bydd aelodau'r cynghorau newydd hynny yn ymgymryd â'u swyddi ar 24 Mehefin 2002.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
English
version
ISBN
0 11090501 6
|
Prepared
14 June 2002