British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021401w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1401 (Cy.140)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
21 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[
2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002.
Diwygio Rheoliadau
2.
- (1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001[
3] fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (a) "a", a hepgorwch is-baragraff (c) a'r "ac" o'i flaen.
(3) Yn lle paragraff 8 rhowch -
"
8.
Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag -
(a) disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol; a
(b) absenoldeb awdurdodedig neu ddiawdurdod disgyblion,
y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn llawlyfr yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996[4].".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwaredu'r gofyniad i gynnwys yn Adroddiadau Llywodraethwyr wybodaeth benodol sy'n ymwneud â chofnodion presenoldeb disgyblion (gweler paragraff 6(c) yn yr Atodlen i'r Rheoliadau blaenorol), ac yn ei le yn rhoi gofyniad newydd i gynnwys gwybodaeth am absenoldebau awdurdodedig a diawdurdod fel y nodir hwy yn llawlyfr yr Ysgol.
Notes:
[1]
1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2001/1110 (Cy. 54).back
[4]
Amnewidiwyd adran newydd 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1111 (Cy.55) ac O.S. 2002/1394 (Cy137).back
[5]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090497 4
|
Prepared
5 June 2002