British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021176w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1176 (Cy.124)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
25 Ebrill 2002 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55 (3) a 118(5) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd o dan adran 54(1) o'r Ddeddf;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Personau sydd i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol
3.
At ddibenion y swyddogaeth sydd gan y Cyngor o dan adran 54(3) o'r Ddeddf yn unig mae personau o unrhyw un o'r disgrifiadau yn is-baragraffau (a) i (g) o baragraff (3) o adran 55 o'r Ddeddf i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, at ddibenion y swyddogaeth sydd gan Gyngor Gofal Cymru o dan adran 54(3) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") yn unig, fod personau penodol i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol. O dan adran 54(3) o'r Ddeddf rhaid i Gyngor Gofal Cymru hyrwyddo mewn perthynas â Chymru safonau ymddygiad a safonau ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol, a safonau uchel ar gyfer eu hyfforddiant.
Y personau a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (g) o adran 55(3) o'r Ddeddf yw'r rhai sydd i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at y dibenion sydd newydd eu crybwyll. Maent yn cynnwys personau sy'n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (neu â darparu gwasanaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu wrth arfer y swyddogaethau hynny); personau sy'n ymgymryd â darparu gofal personol i unrhyw berson; personau penodol sy'n ymwneud ag asiantaethau gwaith cymdeithasol; personau sy'n cael eu cyflogi mewn canolfannau dydd; a myfyrwyr penodol sy'n astudio gwaith cymdeithasol.
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol ("appropriate Minister"). Diffinnir yr "appropriate Minister" yn adran 121(1). Mae'n golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru (mae adran 5(b) yn darparu mai ystyr "y Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru); mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol. Diffinir "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf.back
[2]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090508 3
|
Prepared
20 June 2002