British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021087w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1087 (Cy.114)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
15 Ebrill 2002 | |
|
Yn dod i rym |
16 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 29(10) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
1], ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo[
2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 16 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994
2.
- (1) Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994[
3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Rhodder, yn lle paragraff (1)(b) -
"
(b) plant for -
(i) the recovery, by filtration or heat treatment, of waste oil from electrical equipment,
(ii) the destruction by dechlorination of waste polychlorinated biphenyls or terphenyls (PCBs or PCTs), or
(iii) the collection or storage of a controlled substance from any waste product, installation or equipment;"
(3) Mewnosoder, ar ôl paragraff (1) -
"
(1A) For the purposes of paragraph (1)(b)(iii) above, "controlled substance" means any one of the following:
chlorofluorocarbons, other fully halogenated chlorofluorocarbons, halons, carbon tetrachloride, 1,1,1-tetrachloroethane, methyl bromide, hydrobromofluorocarbons, hydrochlorofluorocarbons."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
15 Ebrill 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Erthygl 16 o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2037/2000 ar sylweddau sy'n disbyddu'r haen osôn yn ei gwneud yn ofynnol i adennill sylweddau rheoledig sydd wedi'u defnyddio (fel y'u diffiniwyd yn Erthygl 2 o'r Rheoliad) sydd mewn cyfarpar rheweiddiad gwastraff, neu gyfarpar arall.
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 yn darparu bod rhai mathau o offer yn gallu cael eu trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12, mewn perthynas â Chymru, drwy ychwanegu math o offer ar gyfer casglu a storio sylwedd rheoledig o eitemau sy'n wastraff. Bydd hyn yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd i awdurdodi offer symudol ar gyfer adennill sylweddau sy'n disbyddu osôn o gyfarpar rheweiddiad sy'n wastraff, diffoddiaduron tân ac eitemau eraill.
Notes:
[1]
1990 p.43.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
O.S. 1994/1056; diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090487 7
|
Prepared
15 May 2002