Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020916w.html
[
New search]
[
Help]
2002 No. 916 (Cy. 104)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
28 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 29A, 29B a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[
2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
3].
(4) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 2
2.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorwch y diffiniad o "Medical Practices Committee".
Diwygio Rhan II o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 4 (rhestr feddygol), ym mharagraffau (3) a (5)(f), ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "by the Medical Practices Committee" rhowch yn eu lle'r geiriau "by the Health Authority".
4.
- (1) Diwygir Rheoliad 5A (hawl ffafriol i gael eich cynnwys ar restr feddygol) yn unol â'r paragraffau canlynol -
(2) ym mharagraff (2)(a) yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the Health Authority";
(3) ym mharagraff (2)(b), yn lle "under section 33(4)(b) of the Act" rhowch "under regulation 13(1)(c)";
(4) hepgorwch baragraff (4).
5.
Yn rheoliad 6 (diwygio neu dynnu'n ôl o restr feddygol), ym mharagraff (5) yn lle'r geiriau o "Where a Health Authority" hyd at " and the Medical Practices Committee grants such variation," rhowch "Where the Health Authority grants an application for the variation of a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(b), ".
Diwygio Rhan III o'r prif Reoliadau
6.
Hepgorwch reoliadau 10 (y Pwyllgor Practisiau Meddygol - penodi aelodau a chyfnod dal swydd) ac 11 (cyfeiriadau ac adroddiadau gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol).
7.
Yn lle rheoliad 12 (penderfyniadau'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch -
"Consideration of vacancies by Health Authorities
12.
- (1) A Health Authority may consider at any time whether there is, or will be a vacancy for a doctor to provide general medical services in their area.
(2) A Health Authority must consider whether there is, or will be a vacancy for a doctor in their area if -
(a) it has been asked to do so by a doctor who provides general medical services in their area , or
(b) a doctor has died, or has withdrawn from, or been removed from the Health Authority's medical list.
(3) Where paragraph (2) applies and where a doctor's prospective patients are situated in the area of more than one Health Authority, any of those Health Authorities may -
(a) elect to consider separately whether there is a vacancy in respect of the prospective patients residing in their area, or
(b) agree to deal jointly with one or more other Health Authorities with prospective patients residing in their areas.
(4) In a case falling within paragraph (3)(b), the Health Authority in whose area reside the largest number of the prospective patients shall decide whether to declare a vacancy, and, if it does so, it shall proceed in accordance with regulation 13 .
(5) If a Health Authority is considering whether or not there is, or will be a vacancy, the Health Authority shall before reaching a decision -
(a) consider the matters set out in Part I of Schedule 3;
(b) obtain from any other Health Authority in whose area prospective patients reside, such information as it thinks necessary.
(6) In reaching their decision a Health Authority shall, in particular, take account of -
(a) the needs of persons in their area for personal medical services;
(b) any relevant financial considerations;
(c) the effect of creating a vacancy on any other Health Authority in whose area prospective patients reside;
(d) any services outside general medical services and personal medical services already provided by doctors in the area.
8.
- (1) Diwygir rheoliad 13 (datgan swyddi gwag) yn unol â paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau "If the Medical Practices Committee" hyd at "in a locality" rhowch "If a Health Authority decides that the number of doctors undertaking to provide general medical services in an area".
(3) Yn lle paragraff (1)(c) rhowch -
"
(c) may impose the condition that any doctor who is to fill a particular vacancy may provide general medical services only in such part of the area as the Health Authority may specify.".
(4) Ym mharagraff (2)(e)(ii) yn lle'r geiriau o " as shall have been specified in" hyd at y diwedd, rhowch "as the Health Authority may specify.".
(5) Hepgorwch baragraffau (3) a (4).
(6) Ar ôl paragraff (4) ychwanegwch -
"
(5) In a case to which regulation 12(3)(b) applies, before deciding which of the conditions set out in paragraph (2) it is appropriate to specify, the Health Authority declaring the vacancy shall consult any Health Authority in whose area prospective patients reside.
(6) When a Health Authority declares a vacancy to which regulation 18A or 18B applies, the vacancy will automatically lapse by effluxion of time after a period of 12 months beginning with the date of the declaration of the vacancy.
(7) When a Health Authority declares a vacancy for a sole practitioner, it shall advertise the vacancy within three months of the declaration of the vacancy or such further period as may be agreed by the National Assembly for Wales.
(8) The Health Authority shall notify its decision in writing, giving reasons, to -
(a) the Local Medical Committee;
(b) any doctor who made a request under regulation 12(2)(a);
(c) any Health Authority or Health Board in whose area prospective patients reside.
(9) In this Part of these Regulations, where the prospective patients of a doctor reside in the area of more than one Health Authority, any reference to "area" shall be construed as a reference to those areas in which prospective patients reside.".
9.
Hepgorwch reoliad 14 (adroddiad gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol).
10.
- (1) Yn lle rheoliad 15 (amrywio a diddymu penderfyniadau'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch -
"
Variation and revocation of decisions of Health Authorities
15.
- (1) Subject to paragraph (2), the Health Authority which declared a vacancy may -
(a) except in cases where an additional doctor has already been nominated or approved pursuant to regulation 18A, 18B or 18C, revoke a decision made pursuant to regulation 13(1) to declare a vacancy for an additional doctor in an area;
(b) in the case of a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(b) (or such a condition as varied pursuant to this regulation), vary the condition by imposing in relation to any doctor who fills or would fill that particular vacancy another condition set out in regulation 13(2);
(c) in the case of a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(c) (or such condition as varied pursuant to this regulation), revoke the condition or vary it by specifying such other part of the area in which the doctor is to be excluded from providing general medical services as the Health Authority considers appropriate; or
(d) refuse to vary or revoke the decision in question.
(2) The Health Authority may not vary or revoke any decision referred to in paragraph (1)(b) or (c) without the written consent of any doctor to whom the existing condition applies.
(3) Before making a decision to vary or revoke a decision under this regulation, the Health Authority shall consult -
(a) the Local Medical Committee for its area;
(b) any Health Authority in whose area prospective patients reside.
(4) In cases where the Health Authority has, at the request or with the consent of a particular doctor considered whether to vary a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(b) or vary or revoke a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(c) then the Health Authority shall give to that doctor a written statement of the reasons for its decision.".
11.
Yn lle rheoliad 16 (effaith amrywio neu ddiddymu) rhowch -
"
16.
A decision of a Health Authority under regulations 13 or 15 has effect until it is varied or revoked, or expires by effluxion of time pursuant to regulation 13 (6)."
12.
- (1) Diwygir rheoliad 17 (penderfyniad Awdurdod Iechyd ynglyn â'r math o swydd wag) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn lle paragraff (1) rhowch -
"
(1) This regulation applies where a Health Authority decides that there is a vacancy for an additional doctor in an area.";
(3) Ym mharagraffau (2) a (3) ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "If the Health Authority made a reference pursuant to regulation 11(1)" rhowch yn eu lle'r geiriau "Where the Health Authority considered in accordance with regulation 12(2)(a) whether to declare a vacancy".
(4) Yn lle paragraff (5) rhowch -
"
(5) In making their decision the Health Authority must -
(a) in a case to which regulation 12(3)(b) applies, consult any Health Authority in whose area the prospective patients reside; and
(b) take account, in particular, of the needs of the patients in the area.".
13.
Yn rheoliad 18 (ymgynghori gyda'r Pwyllgor Meddygol Lleol) -
(a) yn lle is-baragraffau (a) i (c) rhowch -
"
(a) declares a vacancy under regulation 13(1)(a),
(b) imposes conditions on a doctor under regulation 13(1)(b),
(c) decides under regulation 15 to vary or revoke a decision,";
(b) ar ôl is-baragraff (f), yn lle "where regulation 11(2)(a)" rhowch "where regulation 12 (1)".
14.
Yn rheoliad 18A(4) (swyddi gwag mewn partneriaethau penodol), ar ôl "agreed" ychwanegwch "(after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside).".
15.
- (1) Diwygir Rheoliad 18B (swyddi gwag mewn partneriaethau yn gyffredinol) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (2) y mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "in the locality" rhowch yn eu lle'r geiriau "in the area";
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosodwch -
"
(2A) Before setting the criteria referred to in paragraph (2)(a), the Health Authority must consult any other Health Authority in whose area prospective patients reside.";
(4) Ym mharagraff (7), ar ôl "agreed between the Health Authority" mewnosodwch "(after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside)".
16.
- (1) Diwygir rheoliad 18C(swyddi gwag unig ymarferwyr) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (6) hepgorwch "to the Secretary of State ".
(3) Ym mharagraff (7) -
(a) yn lle "regulation 12(4)(d)" rhowch "regulation 13(7)";
(b) yn lle'r geiriau "must make a further reference" hyd at y diwedd, rhowch "must consider again in accordance with regulation 12 whether there is, or will be, a vacancy in the area.".
(4) Yn lle paragraff (8) rhowch -
"
(8) No vacancy may be re-advertised until the expiry of the period for appeal, or, if an appeal is lodged under regulation 18G, until that appeal is dismissed.".
17.
- (1) Diwygir rheoliad 18D (hysbysebu swyddi gwag unig ymarferwyr) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn lle paragraff (1)(a) rhowch -
"
(a) the Health Authority has declared a vacancy, pursuant to regulation 13(1)(a), for an additional doctor in an area; and".
(3) Ym mharagraff (2) yn lle "within such period as the Medical Practices Committee has specified pursuant to regulation 12 (4)(d)," rhowch "within the period specified in regulation 13(7),".
(4) Ym mharagraff (3) -
(a) yn is-baragraff (b) yn lle "by the Medical Practices Committee " rhowch "by the Health Authority ";
(b) yn lle "the locality" rhowch "the area".
(5) Ym mharagraff (6) yn lle "the locality" rhowch "the area, and shall be set after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside."
18.
Yn rheoliad 18E(meini prawf er mwyn derbyn cymeradwyaeth ac enwebiad), ym mharagraff (3) hepgorwch "to the Secretary of State ".
19.
- (1) Diwygir rheoliad 18F (mynediad i restr feddygol) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1), hepgorwch ",and shall inform the Medical Practices Committee that it has done so.";
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosodwch -
"
(2A) The other Authorities are those whose areas include any part of the area in respect of which the vacancy was declared or, where the Health Authority has imposed a condition pursuant to regulation 13(1)(c), those whose areas include any part of the specified area."
(4) Ym mharagraff (3) hepgorwch "to the Secretary of State".
20.
Yn rheoliad 18G (apêl i'r Ysgrifennydd Gwladol) -
(a) ym mharagraffau (1) a (3)(a) ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "the Secretary of State" rhowch yn eu lle'r geiriau "National Assembly for Wales";
(b) hepgorwch baragraffau (4) a (5) a ( 7) i (14).
21.
Hepgorwch reoliadau 18H (achosion nad oes angen eu cyfeirio i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) a 18I (y weithdrefn i'w dilyn os yw rheoliad 18H yn gymwys).
22.
- (1) Yn lle rheoliad 18J (swyddi traws-ffiniol gwag) rhowch -
"
Cross-border vacancies
18J.
- (1) This regulation applies where -
(a) a Health Authority is considering under regulation 12(1) or (2) whether there is, or will be, a vacancy; and
(b) a doctor's prospective patients are situated in the area of one or more Health Authorities in Wales and of one or more Health Authorities in England.
(2) A Health Authority may elect to consider separately whether there is a vacancy in respect of prospective patients residing in their area.
(3) Where two or more have agreed to deal jointly with prospective patients residing in their areas, the Health Authority in whose area reside the largest number of the prospective patients of the additional doctor shall decide whether there is a vacancy and deal with it in accordance with the provisions contained in this Part of these Regulations.
(4) Any Health Authority in whose area will reside any patient who is expected to be on the doctor's list of patients (other than the Health Authority which is responsible for making the decision as to whether there is a vacancy) shall provide whatever information the Health Authority making the decision requires.
(5) Before -
(a) declaring a vacancy under regulation 13(1)(a);
(b) imposing conditions on a doctor under regulation 13(1)(b);
(c) making a decision as to whether an additional doctor should be a member of a partnership or a sole practitioner pursuant to regulation 17(4);
(d) setting or agreeing criteria pursuant to regulation 18D(5);
(e) nominating or approving an additional or replacement doctor pursuant to regulation18A, 18B or 18C,
the Health Authority must consult the Local Medical Committee and any other Health Authority in whose area reside individuals who are, or are expected to be, on the doctor's list of patients.".
23.
- (1) Diwygir rheoliad 18K (swyddi gwag mewn practisiau lle mae'r cleifion yn ddarostyngedig i gynigion cynllun peilot) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) -
(3) Yn lle paragraff (2) rhowch -
(4) Hepgorwch baragraff (4).
24.
- (1) Yn lle rheoliad 18L (darpariaeth drosiannol) rhowch -
"
Transitional provisions
18L
- (1) Any decision of the Medical Practices Committee taken before 1st April 2002 under the provisions of these Regulations as they are in force, shall on or after that date have effect as though the decision had been made by the Health Authority which made the reference to the Medical Practices Committee as a result of which that decision was made .
(2) Any condition of practice imposed before 1st April 2002 by the Medical Practices Committee under regulation 13(1)(b) or (1)(c) (or such a condition as varied by the Medical Practices Committee pursuant to regulation 15(1) as then in force shall on or after that date have effect as though the condition had been imposed by the Health Authority which made the reference to the Medical Practices Committee as a result of which the condition was imposed .
(3) Subject to paragraph (4), where before 1st April 2002 -
(a) a reference had been made to the Medical Practices Committee under regulation 11(1) as then in force, but the Medical Practices Committee had not made a decision by that date; or
(b) an application had been made to the Medical Practices Committee under regulation 15 as then in force, but the Medical Practices Committee had not determined the application by that date,
the decision, or as the case may be, the determination shall be made by the Health Authority which made that reference or application.
(4) Where the reference to the Medical Practices Committee was made at the request of a doctor providing general medical services in that area, that doctor may, on or after the 1st April 2002, choose to withdraw the request and make a new request for consideration of the vacancy instead."
Diwygio rheoliad 37
25.
Yn rheoliad 37 (cyhoeddi manylion), ym mharagraff (3)(a) hepgorwch "the Medical Practices Committee, ".
Diwygio Rheoliad 40
26.
Yn rheoliad 40 (tystysgrif nad yw deliad yn ymwneud â gwerthu'r ewyllys da), yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the Secretary of State".
Diwygio Atodlen 2
27.
- (1) Diwygir Atodlen 2 (telerau gwasanaethu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 24 (3), yn lle "to the Medical Practices Committee" rhowch "to the National Assembly for Wales ".
(3) Ym mharagraff 24(4) -
(a) ym mha le bynnag yr ymddengys cyfeiriad at "the Medical Practices Committee" rhowch yn ei le "the National Assembly for Wales";
(b) yn lle'r cyfeiriad at "the Committee" rhowch "the National Assembly for Wales".
(4) Ym mharagraffau 29(8)(b) yn lle "pursuant to section 33(4)(b) or (5) of the Act" ac ym mharagraff 29A(3)(b) yn lle "pursuant to section 33(4)(b) of the Act" rhowch "under regulation 13(1)(c).".
(5) Ym mharagraff 32 -
(a) ym mharagraff (1), ym mha le bynnag yr ymddengys cyfeiriad at "the Medical Practices Committee" rhowch yn ei le "the National Assembly for Wales ";
(b) ym mharagraff (2) -
(i) yn lle "regulation 18A, 18B, 18C or 18I," rhowch "regulation 18A, 18B or 18C",
(ii) ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "the Secretary of State" rhowch yn eu lle'r geiriau "the National Assembly for Wales".
(6) Ym mharagraff 33(1), yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the National Assembly for Wales".
(7) Ym mharagraff 34 (ardal y practis), yn is-baragraff (2) rhowch -
"
(2) A doctor shall not, contrary to any condition imposed by the Health authority, or on appeal the National Assembly for Wales, under regulation 13(1)(c ), open practice premises in any area or part of an area where, at the time of his application to open such promises, the Health Authority is of the opinion that the number of medical practitioners undertaking to provide General Medical Services in that area or part of that area is already adequate.".
Diwygio Atodlen 3
28.
- (1) Diwygir Atodlen 3 yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Yn lle'r pennawd i Ran I (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd pan yw'n gwneud cyfeiriad i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch -
"
Information to be considered by a Health Authority when deciding whether or not to declare a vacancy
".
(3) Hepgorwch baragraffau 9 a 10.
(4) Yn lle'r pennawd i Ran IB (gwybodaeth ychwanegol sydd i'w chynnwys pan gwneir cyfeiriad i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol oherwydd marwolaeth meddyg neu dynnu meddyg yn ôl neu'i waredu o restr feddygol) rhowch -
"
B.
Additional information to be considered where the Health Authority is deciding whether or not to declare a vacancy on the death of a doctor, or on the withdrawal or removal of a doctor from a medical list".
(5) Ym mharagraff 13, yn lle "If the Medical Practices Committee so requests," rhowch "Where the Health Authority considers it necessary,".
(6) Hepgorwch Ran II (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol ynglyn â digonolrwydd gwasanaethau).
Diwygio Atodlen 7
29.
Yn Atodlen 7 (ffurf y dystysgrif sydd i'w chyhoeddi gan y Pwyllgor Practisiau Meddyol o dan baragraff 1(3) o Atodlen 10 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977) -
(a) yn lle'r pennawd, rhowch "Form of Certificate to be issued by the Secretary of State under paragraph 1(3) of Schedule 10 to the National Health Service Act 1977";
(b) ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "the Medical Practices Committee" rhowch yn eu lle'r geiriau "the Secretary of State";
(c) yn lle "Signature of the chairman or other member authorised by the Medical Practices Committee." rhowch "Signed by Authority of the Secretary of State.".
Diwygio Atodlen 8
30.
Yn Atodlen 8 (oriau gwaith meddygon) -
(a) yn Rhan I (gwybodaeth sydd i'w chynnwys yn unrhyw gais o dan baragraff 29 o Atodlen 2), yn lle paragraff 8 rhowch -
"
8.
The terms of any condition imposed by the Health Authority under regulation 13(1)(c).";
(b) yn Rhan IV (rhestr ddarluniol o weithgareddau'n ymwneud â iechyd), yn y cofnod olaf, hepgorwch "or the Medical Practices Committee".
Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Tystysgrifau a gyhoeddir o dan Atodlen 10
31.
Cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym -
(a) os yw ymarferydd meddygol neu ei gynrychiolydd personol wedi gwneud cais i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol am farn o dan baragraff 1(2) o Atodlen 10 (gwahardd a thystysgrif y Pwyllgor Practisiau Meddygol); neu
(b) os yw person sy'n bwriadu bod yn barti i ddeliad neu gyfres o ddeliadau wedi gwneud cais i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol am dystysgrif o dan baragraff 1(3) o'r Atodlen honno,
bydd y cais hwnnw yn cael ei drin fel cais i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Rhodri Morgan
Y Prif Ysgrifennydd
Dyddiad 28 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio dewis ymarferwyr cyffredinol i lanw swyddi gwag mewn practisiau.
Yn dilyn diddymu'r Pwyllgor Practisiau Meddygol gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu cyfundrefn newydd er mwyn i Awdurdodau Iechyd nodi swyddi gwag ac er mwyn gosod amodau ymarfer ar ymarferwyr cyffredinol sy'n llenwi'r swyddi gwag hynny. Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau.
O dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol y swyddogaeth o gyhoeddi tystysgrifau i ymarferwyr cyffredinol nad yw deliad yn cynnwys gwerthu ewyllys da ac mae rheoliadau 24 a 27 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae Rheoliad 29 yn gwneud darpariaethau trosiannol ynglyn â thrin ceisiadau i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol fel ceisiadau i'r Ysgrifennydd Gwladol os yw'r ceisiadau am dystysgrif neu am farn nad yw deliadau penodol yn cynnwys gwerthu neu brynu ewyllys da practis meddygol ac os yw'r ceisiadau heb eu penderfynu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae Rheoliad 24 yn digwygio rheoliad 18L er mwyn darparu darpariaethau trosiannol newydd sy'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i Ran III o'r prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
1977 c.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwaldol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), ar gyfer y ddiffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanethau Iechyd 1980 (p..53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol a Beirniadaethau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2, gan Ddeddf Meddygaeth 1983 (p.54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a), gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a can Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 8. Mewnosodwyd adran 29A gan Ddeddf 1997, adran 32, ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001"), adran 20. Mewnosodwyd adran 29B gan Ddeddf 1997, adran 32, ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, adrannau 15 ac 20. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2), gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6) a chan Ddeddf 2001, Atodlen 5, paragraff 5(13)(b).
Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwadol o dan adrannau 29, 29A, 29B a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi; mae adran 68 o Ddeddf 2001 yn darparu bod Atodlen 1 i'w dehongli i gynnwys y diwygiadau a wnaethpwyd gan y Ddeddf honno i Ddeddf 1977; mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.back
[2]
2001 p. 15.back
[3]
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/682, 1998/2838 a 2000/220 (mae'r diwygiadau a wnaethpwyd gan y Rheoliadau hyn effaith yng Nghymru yn rhinwedd O.S. 2000/1707, Cy.114).back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090457 5
|
Prepared
9 April 2002