British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020837w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 837 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
26 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
10 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 33 ac 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[
1]:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 10 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Gorchymyn
2.
Ym mharagraff (b) o erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996[
2] yn lle "£24,000" rhowch "£30,000".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y grant gorfodol ar gyfer cyfleusterau i'r anabl y gall fod yn ofynnol i awdurdod tai lleol dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae'r uchafswm yn cael ei godi o £24,000 i £30,000 ar gyfer adeiladau neu anheddau yng Nghymru.
Notes:
[1]
1996 p. 53; mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[2]
O.S. 1996/2888, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1275 (Cy. 74).back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090466 4
|
Prepared
18 April 2002