British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020785w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 785 (Cy.86)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
21 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[
1] ac sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[
2]:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfradd y disgownt
2.
6.7 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian cyfalaf awdurdodau lleol.
Mae adran 49(2) o'r Ddeddf honno'n nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.
Un o'r elfennau sy'n ffurfio'r fformwla yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfradd ganrannol o 6.7 y cant o ddisgownt sy'n 0.3 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2001/2002.
Notes:
[1]
1989 p.42.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090465 6
|
Prepared
19 April 2002