British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020783w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 783 (Cy.84)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
21 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1af Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1].
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
2.
- (1) Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001[
2] fel a ganlyn.
(2) Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) yng ngholofn (1)
"
ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo)."
(3) Yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) ar y diwedd, ychwanegir:
"
17.
Y p er i wneud gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.";
"
adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16)."[3];
"
18.
Y per i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc; a"
"
Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000"[4];
"
19.
Y per i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc."; ac
"
adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (sy'n gorfod bod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Pennodd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") nifer o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaeth ychwanegol yn un nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 1 i Reoliadau 2001. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) yngl
er i wneud Gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag adran 13(2) yn un y mae'r rhaid iddo beidio â chael ei arfer gan weithrediaeth i awdurdod lleol. Mae i'r diwygiad hefyd yr un effaith mewn perthynas â phwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
O.S. 2001/2291 (Cy.179).back
[3]
2001 p.16.back
[4]
2000 p.21.back
[5]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090470 2
|
Prepared
23 April 2002