British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020678w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 678 (Cy.75)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
12 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(1) a (2) a 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[
1]:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn adran 1(1)(d) neu (e) o Ddeddf 1999 (awdurdodau heddlu a thân).
(3) Yn y Gorchymyn hwn Ystyr "Deddf 1988" ("
the 1988 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1988[
2].
Materion nad ydynt i fod yn faterion anfasnachol mewn perthynas ag awdurdodau gwerth gorau
2.
Bydd y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 (contractau awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill: hepgor ystyriaethau anfasnachol) yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn cynnwys rhestr o faterion (materion anfasnachol) na chaiff awdurdod cyhoeddus arfer y swyddogaethau a restrir yn adran 17(4) o'r Ddeddf honno o'u herwydd, sef swyddogaethau sy'n cynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwadau neu weithfeydd cyhoeddus arfaethedig.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno . Mae'r materion o dan sylw yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogi etc gweithlu'r contractiwr ac ymddygiad contractwyr neu eu gweithwyr mewn anghydfodau diwydiannol.
Notes:
[1]
1999 p.27.back
[2]
1988 p.9.back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090455 9
|
Prepared
5 April 2002