British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020652w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 652 (Cy.69)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002
|
Wedi'u gwneud |
5 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) |
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[
1] sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe (yng nghymunedau Pontardawe a Chlydach yn ardal Pontardawe Road) ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;
a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 [
2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Abertawe" ("Swansea") yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe;
ystyr "Castell-nedd Port Talbot" ("Neath Port Talbot") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
ystyr "y map ffiniau" ("the boundary map") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd "Map o Orchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002" a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd [3].
Newid Prif Ardaloedd ac Ardaloedd Cymunedau
3.
Caiff y rhan honno o Gastell-nedd Port Talbot sydd yn ward Trebannws yng nghymuned Pontardawe ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau (sy'n cynnwys yr eiddo sy'n dwyn rhifau 162 i 172 Pontardawe Road) ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o ward Clydach yn Abertawe.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhodri Morgan
Prif Weinidog
5 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal yng nghymuned Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clydach yn Abertawe. Bydd hyn yn effeithio ar yr eiddo sy'n dwyn rhifau 162 i 172 Pontardawe Road.
Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot ac yn swyddfeydd Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Sir, Oystermouth Road, Abertawe ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.
Notes:
[1]
1972 (p.70).back
[2]
(O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.back
English
version
ISBN
0 11090479 6
|
Prepared
7 May 2002