British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020304w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 304 (Cy.35)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFIEILIAID
Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
8 Chwefror 2002 | |
|
Yn dod i rym |
11 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998
2.
I'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998[
3] yn cael eu diwygio drwy osod y rhif "3" yn lle'r rhif "7" yn rheoliad 7(e).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
8 Chwefror 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998 (O.S. 1998/1796) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad roi hysbysiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am symudiad gwartheg.
Effaith y diwygiad sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau yw lleihau'r cyfnod y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad anifeiliaid o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â gofynion ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1998/1796.back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090428 1
|
Prepared
22 February 2002